Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru
| Math | cofeb ryfel |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 12 Mehefin 1928 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd, Cymru |
| Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 13 metr |
| Cyfesurynnau | 51.4864°N 3.1803°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
| Manylion | |
Lleolir Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd. Mae'n coffa'r holl Gymry a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. [1]
Hanes y gofeb
[golygu | golygu cod]Cynlluniwyd hi ym 1923 gan Ninian Comper ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ym 1928 gan Dywysog Cymru (yn hwyrach Edward VIII).[1]
Cofeb ydyw yn yr arddull glasurol, fel sawl adeilad arall yng nghanolfan ddinesig y brifddinas. Ysbrydolwyd Comper gan adfeilion o oes yr ymerawdwr Hadrian a welodd ar ei wyliau yng Ngogledd yr Affrig.[1] Cynlluniodd y gofeb ar ffurf colonâd cylchog gyda thri cyntedd a thrwy bob un o'r rhain gellir gweld cerflun un ai o forwr, milwr neu awyrennwr, ill dri yn dal coronbleth. Uwchben y rhain saif negeseuydd adeiniog noeth, yn dal cleddyf ar ben ei waered megis croes. Un morwr ifanc a'i ddewisiwyd gan y pensaer oedd y model ar gyfer y pedwar cerflun.[1]
Ceir arysgrifau ar y gofeb yn nhair iaith, Cymraeg, Saesneg a Lladin. Cyfansoddwyd yr arysgrifau Cymraeg gan y beirdd T. Gwynn Jones ac R. Williams Parry a'r arysgrif Saesneg gan Syr Henry Newbolt. Daw'r ymadrodd Lladin o ddigwyddiad adnabyddus yn hanes yr ymerodraeth Rufeinig; yn ôl y chwedl, tra'n ymladd ym mrwydr Pont Milvius cafodd Gystennin I weledigaeth o arwydd y Groes yn yr awyr a clywodd llais yn darogan, in hoc signo vinces ("gyda'r arwydd hyn cei orchfygu").
- Arysgrifau
| I FEIBION CYMRU A RODDES EU BYWYD DROS EI [sic] GWLAD YN RHYFEL MCMXIV – MCMXVIII | Y ffrîs crwn (mewn tair rhan) ar y tu allan |
| DROS FOR FE DROES I FARW | Y ffrîs ar y cyntedd uwchben y morwr |
| GER Y FFOS YN GORFFWYSO | Y ffrîs ar y cyntedd uwchben y milwr |
| YN Y NWYFRE YN HOFRAN | Y ffrîs ar y cyntedd uwchben yr awyrennwr |
| REMEMBER HERE IN PEACE THOSE WHO IN TUMULT OF WAR BY SEA, ON LAND, ON AIR, FOR US AND FOR OUR VICTORY ENDURETH UNTO DEATH | Y ffrîs cylchog ar y tu mewn |
| IN HOC SIGNO VINCES | Ffrîs y strwythur cylchog yng nghanol y gofeb |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Welsh National War Memorial – Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru. Statues – Hither & Thither. Adalwyd ar 10 Ionawr 2013. Mae'r erthygl hon yn sôn am y mymryn o Gymraeg a ddysgodd y Tywysog ar gyfer seremoni'r dadorchuddio.
- (Saesneg) Welsh National War Memorial. National Recording Project. Public Monuments and Sculpture Association. Adalwyd ar 10 Ionawr 2014.
- (Saesneg) Welsh National War Memorial. UK National Inventory of War Memorials. Imperial War Museums. Adalwyd ar 10 Ionawr 2014.
