Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru
Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a barhaodd o dymor yr haf 1914 hyd at 11 Tachwedd 1918, yn agwedd fawr o hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, a chafodd effaith ar gymdeithas a diwylliant y wlad. Pan dechreuodd y rhyfel, galwodd Canghellor y Deyrnas Unedig, y Cymro David Lloyd George, am sefydlu "Byddin Gymreig" o wahanol adrannau a chatrawdau Cymreig, a gyda chymorth ymgyrchoedd recriwtio gan unigolion megis Owen Thomas a John Williams (Brynsiencyn) roedd 100,000 o Gymry wedi ymuno â'r fyddin erbyn mis Mai 1915.[1] Ym 1916 daeth Lloyd George yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Yn debyg y milwr enwocaf o Gymru i farw oedd Ellis Humphrey Evans, a adnabyddir gan yr enw barddol Hedd Wyn, oedd yn aelod o'r Ffiwsilwyr Cymreig. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod 1917 gyda'r gerdd Yr Arwr. Bu farw Hedd Wyn ym Mrwydr Passchendaele wedi iddo anfon y gerdd, ac felly rhoddwyd lliain du dros y Gadair.
Ymladdodd pum bataliwn Gymreig ym Mrwydr Coed Mametz, rhan o Frwydr Gyntaf y Somme, a bu farw 4,000 o filwyr o Gymry, er iddyn nhw ennill. Heddiw mae draig goch yn sefyll yng Nghoed Mametz yn gofeb iddynt.[1]
Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 272,000 o ddynion o Gymry wedi ymladd yn y rhyfel a bron i 40,000 ohonynt wedi eu lladd.[1]
Rhai dyddiadau nodedig[golygu | golygu cod y dudalen]
- 4 Awst 1914: Prydain yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen
- Hydref 1914: Brwydr Ghelvelt
- 9 Awst 1915: Y 53fed Adran Gymreig yn glanio yn Galipoli (53fed Adran Gymreig)
- 31 Mai 1916: Morwyr Cymreig ym Mrwydr Jutland
- 1 - 14 Gorffennaf 1916: Brwydr Gyntaf y Somme gan gynnwys Brwydr Coed Mametz
- 31 Gorffennaf 1917: Brwydr Passchendaele, gan gynnwys Brwydr Cefn Pilckem (38fed Adran Gymreig)
- 11 Tachwedd 1918: Diwrnod y Cadoediad
- Awst 2014: dadorchuddio cofeb yn Langemark, Fflandrys i'r Cymry a wasanaethodd yn y Rhyfel.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf 1914 - 1918. BBC Cymru (28 Hydref 2008).