Thomas Gwynn Jones
| Y Prifardd a'r Athro T. Gwynn Jones | |
|---|---|
Llun gan arlunydd anhysbys o T. Gwynn Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol | |
| Ganwyd | Thomas Jones 10 Hydref 1871 Y Gwyndy Uchaf, Betws-yn-Rhos, Sir Ddinbych, Cymru |
| Bu farw | 7 Mawrth 1949 (77 oed) Willow Lawn, Caradoc Road, Aberystwyth, Sir Aberteifi, Cymru |
| Enwau eraill | Gwynvre ap Iwan, Ruhrik Du, nifer o ffugenwau eraill. |
| Gwaith | Bardd, ysgolhaig, beirniad, nofelydd, newyddiadurwr, llyfrgellydd |
| Gweithiau nodedig | Cerddi: Ymadawiad Arthur, Madog, Gwlad y Bryniau, Ystrad Fflur, Gwlad y Gân, Anatiomaros, Tir na Nog; Nofelau a straeon byrion: Enaid Lewys Meredydd, Gorchest Gwilym Bevan, Brethyn Cartref; Gweithiau eraill: Gwaith Tudur Aled, Cofiant Thomas Gee |
| Teitl | Athro Emeritws Celteg |
| Priod | Margaret Jane Davies |
| Plant | Eluned, Arthur ap Gwynn, Llywelyn |
| Rhieni | Isaac Jones a Jane Roberts |
| Gwobrau | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol (1902 ac 1909), D.Litt (Cymru) (1937), D.Litt (Eire) (1937), C.B.E. (1937) |
Bardd, nofelydd, dramodydd, beirniad llenyddol, ysgolhaig, cyfieithydd a newyddiadurwr o Gymru oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref 1871 – 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn ac yn ffigwr allweddol yn llenyddiaeth, ysgolheictod ac astudiaethau llên gwerin Cymru yn hanner cyntaf yr 20g. Mae wedi'i ddisgrifio fel un o ffigyrrau deallusol pennaf ei oes yn y Gymraeg a sonir amdano'n aml fel un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.[1][2][3] Roedd yn ffigwr allweddol yn y 'dadeni' ym Marddoniaeth Gymraeg ar ddechrau'r 20g.[4] Roedd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]
Cafod ei eni yn Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw). 'Thomas' oedd ei unig enw bedydd; mabwysiadodd yr enw Gwynn (ar ôl y Gwyndy) yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel newyddiadurwr.[5] Roedd yn fab i Issac a Jane Jones; ffermwr a bardd amatur oedd Isaac Jones; symudodd y teulu nifer o weithiau wrth i denantiaethau Isaac gael eu terfynu gan landlordiaid am resymau gwleidyddol, ffaith a ddylanwadodd ar wleidyddiaeth Gwynn ei hun yn ddiweddarach yn ei oes.
Ni chafodd fwy o ysgol ffurfiol nag oedd yn arferol i fachgen o'i ddosbarth; aeth i ysgolion yn Llanelian (Hen Golwyn) - lle cafodd ei gosbi gyda'r Welsh Not - Abergele a Dinbych. Roedd yn ddisgybl galluog fodd bynnag, a chafodd hefyd rywfaint o diwtora mewn Groeg, Lladin a Mathemateg gan gymydog mewn paratoad ar gyfer cais am ysgoloriaeth i Rydychen. Pan oedd yn barod i fynd yno fodd bynnag profodd gyfnod o iechyd gwael a barodd dros flwyddyn, gan ei rwystro rhag gallu derbyn ei ysgoloriaeth.[5]
Dinbych: 1890au
[golygu | golygu cod]A'i iechyd yn rhy wael i ystyried ffermio, dilynodd gyrfa fel newyddiadurwr wedi gadael cartref, gan ddod yn is-olygydd ar Baner ac Amserau Cymru yn 1890 dan olygyddiaeth Thomas Gee yn Ninbych. Yn 1893 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i Isaac Foulkes ar Y Cymro, ond dychwelodd i Ddinbych a'r Faner yn 1895 gan weithio hefyd ar bapur Saesneg y North Wales Times.[5] Yn ddiweddarach ysgrifennodd gofiant i Gee sy'n ddrych i'w oes yn ogystal â'i waith.
Ymddangosodd ambell stori fer a cherdd ganddo dan ffugenwau yn ystod yr 1890au, a chafodd enw fel newyddiadurwr beiddgar nad oedd ofn ganddo feirniadu'r gyfundrefn, yn enwedig yr Ymerodraeth Brydeinig a chyfundrefn barddol yr Eisteddfod dan Y Bardd Newydd, a oedd, ym marn Gwynn, yn henffaswin ac yn isel ei safon. Roedd yn ohebwr cyson ag Emrys ap Iwan, a fu'n dylanwad gwleidyddol a llenyddol sylweddol arno ga Bu Gwynn weithredol hefyd ym mudiad Cymru Fydd.[6] Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar Yr Herald a'r Caernarvon and Denbigh Herald dan olygyddiaeth ei gyfaill Daniel Rees; dechreuodd ei nofel gyntaf Gwedi Brad a Gofid ymddangos ar dudalennau'r Herald yn 1897; fodd bynnag ei waith llenyddol pwysicaf o'r cyfnod hwn oedd y cyntaf o'i gerddi hir, Gwlad y Gân (1896-7), cerdd yn dychanu'r gyfundrefn farddol ac a ddisgrifiwyd gan W. J. Gruffydd yn "daranfollt" pan ddarlledodd ef hi am y tro cyntaf.[5] O 1898-99 ymddangosodd nofel arall o'i eiddo, Camwri Cwm Eryr ym Mhapur Pawb, cylchgrawn oedd hefyd dan olygyddiaeth Rees; ymddangosodd ei drydedd nofel Gorchest Gwilym Bevan yn Y Cymro yn 1899.
Priododd Margaret Jane Davies yn 1899.
Caernarfon: 1900au
[golygu | golygu cod]
Er gwaethaf Gwlad y Gân fel nofelydd felly yr oedd Gwynn yn fwyaf adnabyddus ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.[7] Roedd ei fryd ar farddoniaeth fodd bynnag, a phenderfynodd gystadlu am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, gan gwblhau ei awdl ar y funud olaf.[8] Nid oedd Gwynn wedi disgwyl i'w awdl yntau ennill y gystadleuaeth ac nid oedd yn bresennol ar gyfer y seremoni; cadeiriwyd ei gyfaill Beriah Gwynfe Evans yn ei le.[9]
Ochr yn ochr â'i lwyddiant eisteddfodol parhaodd ei yrfa newyddiadurol, a daliodd i ysgrifennu nofelau a cherddi hefyd drwy flynyddoedd cynnar y ganrif. Cyhoeddwyd dau gasgliad o'i gerddi yn ystod y cyfnod hwn, Gwlad y Gân a Chaniadau Eraill (1902) ac Ymadawiad Arthur a Chaniadau Eraill (1910). Yn dilyn cyfnod o gorweithio profodd broblemau iechyd ac yn dilyn diagnosis o'r diciâu yn 1905 treuliodd sawl mis yn yr Aifft, gan ymweld ag Alexandria a Chairo i geisio lleddfu'r clefyd, gan ddal i ysgrifennu cyfraniadau at y wasg yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ddiweddarch cyhoeddwyd rhai mewn cyfrol yn cofnodi'r daith, Y Môr Canoldir a'r Aifft (1912), un o'r enghreifftiau cynharaf yn y Gymraeg o lenyddiaeth taith.
Wedi iddo dychwelyd daeth yn olygydd ar Bapur Pawb, lle daliodd i gyhoeddi nofelau; yn 1905, cyhoeddwyd ei seithfed, Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002; sef, mae'n debyg, yr enghraifft cynharaf o nofel wyddonias yn y Gymraeg.[10] Mewn cyfnod eithriadol o brysur o 1905 i 1908 cyhoeddodd nifer o nofelau a chyfieithiadau a dros dau gant o straeon byrion ym Mhapur Pawb a chyhoeddiadau eraill.[11] Casglwyd rhai o'r rhain yn ddiweddarach yn y gyfrol Brethyn Cartref (1913).
Ennillodd y Gadair am yr eildro yn y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909 gyda'r awdl Gwlad y Bryniau.
Aberystwyth: 1909-1949
[golygu | golygu cod]Yn chwilio am waith fyddai'n gofyn llai o'i iechyd bregus,[12] ar ôl blynyddoedd o newyddiadura aeth i weithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 1909. Gyda'i waith fel newyddiadurwr daeth ei yrfa fel nofelydd i ben hefyd: er iddo fyw am bron i ddeugain mlynedd eto ni chyhoeddodd nofel arall ar ôl John Homer yn 1910.
Nid oedd y gwaith yn y llyfrgell at ei ddant, fodd bynnag.[13] Daeth ddihangfa pan agorodd cyfle iddo ddod yn ddarlithydd yn adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw hyd at ei ymddeoliad yn 1937.
Yn dilyn cyfnod yn ysgrifennu dramâu yn yr 1910au, ei waith ysgolheigaidd mynnodd y sylw mwyaf am weddill ei oes, gan gynnwys ei gofiant i Thomas Gee a golygiad o waith Tudur Aled ymhlith nifer fawr o waith ysgolheigaidd arall mewn meysydd amrywiol. Daliodd ati i gyfieithu ac i farddoni fodd bynnag, gyda nifer o'i gerddi hwyr yn ymddangos mewn cyfrol yn 1944 dan y teitl Y Dwymyn. Yn 1924 cyfeitihodd ddrama fawr Goethe Faust i'r Gymraeg.
Er nad yw'n ymddangos iddo gystadlu eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl ennill y gadair am yr eildro yn 1909, gwasanaethodd fel beirniad eisteddfodol ar nifer o adegau drwy weddill ei fywyd, ac ef oedd y prif feirniad yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1917 pan gwobrwywyd y bardd ifanc Hedd Wyn.
Anrhydeddwyd ef â D.Lit. Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon, ill dau yn 1938. Cafwyd ymdrech gan nifer o ysgolheigion Ewropeaidd i'w enwebu am Wobr Nobel am Lenyddiaeth, fodd bynnag gwrthododd Gwynn dderbyn yr enwebiad.[14]
Bu farw yn ei gartref yn Aberystwyth, 7 Mawrth 1949, yn 77 oed; cafodd ei gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn. Gadawodd ei wraig Margret a dau o blant, gan gynnwys Arthur ap Gwynn.[5]
Daliadau Gwleidyddol ac Athronyddol
[golygu | golygu cod]Roedd Gwynn yn genedlaetholwr Cymreig; bu'n weithredol ym mudiad Cymru Fydd yn ystod yr 1890au,[15] ac mae themâu cenedlaetholgar i'w cael yn rhai o'i nofelau, yn enwedig Enaid Lewys Meredydd.
Roedd Gwynn yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a cherddodd allan o'r babell yn fwriadol yn ystod araith y Prif Weinidog David Lloyd George yn ystod seremoni cadeirio Eisteddfod 1917 .[16] Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth hefyd, pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Brydain yn y rhyfel.
Dylanwad a Gwaddol
[golygu | golygu cod]Er gwaethaf cynnyrch toreithiog T. Gwynn Jones mewn ystod eang o genres llenyddol, hwyrach mai am ei waith fel bardd y cofir ef fwyaf; ac fe'i ystyrir ymhlith beirdd pennaf yr iaith Gymraeg mewn unrhyw ganrif,[1][2] yn enwedig am ei gerddi naratifol hir ar gynghanedd, sy'n cynnwys Ymadawiad Arthur, Tir Na Nog, Anatiomaros, Madog ac eraill. Roedd Gwynn yn feistr ar y gynghanedd a rhoddir teyrnged iddo'n aml am adnewyddu traddodiad y canu caeth; ystyriai R. Silyn Roberts (enillydd y Goron yn 1902 - yr un flwyddyn enillodd Gwynn y gadair gydag Ymadawiad Arthur - bod y gerdd honno wedi'i argyhoeddi bod y gynghanedd eto'n fyw.[17] Er bod ei ddwy gerdd eisteddfodol fuddugol yn awdlau confensiynol (o ran mesur barddonol), roedd yn arbrofwr cysgon gyda'r gynghanedd, gan ddefnyddio mesurau cynghaneddol y tu hwnt i'r pedwar mesur ar hugain mewn cerddi fel Madog. Defnyddiodd y gynghanedd hyd yn oed wrth gyfieithu barddoniaeth.[1]
Ystyrir Gwynn fel arfer yn ramantydd, yn sicr yn ystod blynyddoedd cyntaf yr Ugeinfed ganrif.[18] Roedd Gwynn yn un o'r cynharaf o nifer o feirdd amlwg yn barddoni ar ddechrau'r ugeinfed ganrif - yn eu plith W. J. Gruffydd, R. Williams Parry a T. H. Parry Williams - gan ei wneud yn gyfnod a ddisgrifir weithiau fel 'dadeni' ym marddoniaeth Gymraeg, a Gwynn yn ffigwr allweddol iddo.[4] Fodd bynnag mae beirniaid eraill wedi dadlau bod elfennau o foderniaeth i'w gweld ym marddoniaeth Gwynn, yn enweidg ei gerddi hwyr.[18]
Bu'n ddylanwad uniongyrchol ar nifer o feirdd Cymraeg eraill gan gynnwys ei gyfoeswyr R. Williams Parry[1] ac R. Silyn Roberts[17] a beirdd diweddarach fel Gwenallt.[1]
Ni chafodd nofelau Gwynn yr un sylw â'i farddoniaeth; fodd bynnag ym marn ei gofiannydd Alan Llwyd roedd yn arloeswr yn y maes a dylid ei ystyried Gwynn yn "ewythr" y nofel Gymraeg.[19]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Ymadawiad Arthur a cherddi eraill (Caernarfon, 1910).
-
Ymadawiad Arthur yng Nghofnodion Eisteddfod Bangor 1902
-
T Gwynn Jones yn eistedd yng Nghadair Eisteddfod Bangor 1902, gyda'r Archdderwydd, Hwfa Môn, a'r Orsedd [n 1]
-
Cyfieithiad T Gwyn Jones o Faust gan Goethe. Cyfres y Werin, 1922
-
Argraffiad Melin Bapur o Gorchest Gwilym Bevan.
-
Argraffiad Melin Bapur o Lona.
-
Argraffiad Melin Bapur o Enaid Lewys Meredydd.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]Chyhoeddiadau T. Gwynn Jones
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod](Dim ond casgliadau a ddetholwyd gan Gwynn Jones ei hun yn ystod ei fywyd a restrir yma)
- Ymadawiad Arthur (Caernarfon, 1910)
- Caniadau (Wrecsam, 1934)
- Cerddi Canu (Llangollen, 1942)
Nofelau
[golygu | golygu cod](Mae'r flwyddyn gyntaf yn cyfeirio at ddyddiad cyhoeddiad gwreiddiol y nofelau mewn cyfnodolion; yr ail flwyddyn y cyhoeddiad cyntaf fel cyfrol, os cafwyd un)
- Gwedi Brad a Gofid (1897-98/1898)
- Camwri Cwm Eryr (1898-99/2024)
- Gorchest Gwilym Bevan (1899/1900)
- Rhwng Rhaid a Rhyddid (1901)
- Llwybr Gwaed ac Angau (1902-03)
- Merch y Mynydd, neu Siwrneuon y Sipswn (1903-04)
- Hunangofiant Prydydd (1905)
- Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002 (1905/2024)
- Glyn Hefin (1906)
- Gorchestion John Homer (1907/1923 dan y teitl John Homer)
- Yn Oes yr Arth a'r Blaidd (nofel i blant; 1907/1913)
- Lona (1908; ail-gyhoeddwyd fel cyfrol 1923)
Dramâu
[golygu | golygu cod]- Caradog yn Rhufain (Wrecsam, 1914)
- Dafydd ap Gruffydd (Aberystwyth, 1914)
- Tir na N-óg (Caerdydd, 1916)
- Dewi Sant (Wrecsam, 1916)
- Y Gloyn Byw (Y Drenewydd, 1922)
- Anrhydedd (Caerdydd, 1923)
- Y Gainc Olaf (Wrecsam, 1934)
Cyfieithiadau
[golygu | golygu cod]- Pietro Mascagni, trosiad i’r Gymraeg gan Dyfnallt Morgan, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwyddoch Amdano (Porthmadog, 1987).
- Gounod, (gol. a chyf.) T. Gwynn Jones, Rhowch i mi nerth (Porthmadog, 1987).
- Johann Wolfgang von Goethe, (tros.) T. Gwynn Jones, Faust (Cyfres y Werin, 1922). [Cyfieithiad o waith mawr Goethe.]
- (Deth. a chyf.) T. Gwynn Jones, Awen y Gwyddyl (Cyfres y Werin, 1923). [Barddoniaeth Wyddeleg mewn cyfieithiad.]
- (cyf.) Macbeth gan William Shakespeare (1942) [Cyfieithiad o ddrama enwog Shakespeare]
- (cyf.), Visions of the Sleeping Bard (1940). [Cyfieithiad o Gweledigaethau'r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne]
- (cyf.), Blodau o Hen Ardd (1927). [ Epigramau Groeg mewn cyfieithiad]
- Dychweledigion (1920). [Cyfieithiad o ddrama Henrik Ibsen]
- Hedd a Galanas (1905), [Addasiad/talfyriad o Rhyfel a Heddwch gan Leo Tolstoy] (heb ei gyhoeddi fel cyfrol)
- Y Digrif Dybryd (1908), [Cyfieithiad o L'Homme Qui Rit gan Victor Hugo] (heb ei gyhoeddi fel cyfrol)
Eraill
[golygu | golygu cod]- Y Dwymyn, 1934–35 (Caerdydd, 1972).
- Dylanwadau (Bethesda, 1986).
- Tudur Aled, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926). [Golygiad mewn dwy gyfrol o gerddi Tudur Aled.]
- Welsh Folklore and Folk Custom (Llundain, 1930). [Astudiaeth arloesol o lên gwerin Cymru.]
- Marged Enid Griffiths, (gol.) T. Gwynn Jones, Early Vacation in Welsh (Caerdydd, 1937).
- Adolygiad/au: T. Gwynn Jones, Y Faner (17.2.89), 14.
- T. P. Ellis, Dreams and memories (Y Drenewydd, 1936), gyda T. Gwynn Jones, ‘Foreward’, t. Vii.
- Astudiaethau (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau][20]
- Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
- Brethyn Cartref (Caernarfon, 1913). [Straeon][21]
- Peth Nas Lleddir (Aberdâr, 1921).
- Rhieingerddi’r Gogynfeirdd (Dinbych, 1915). [Astudiaeth o waith y Gogynfeirdd.]
- Cymeriadau (Wrecsam, 1933). [Ysgrifau][22]
- Detholiad o Ganiadau (Y Drenewydd, 1926).
- Cerddi Hanes (Wrecsam, 1930).[23]
- Gwlad y gân (Caernarfon, 1902). [Cerddi]
- Manion (Wrecsam, 1932).
- ‘Rhagymadrodd’, yn (casg.) W. S. Gwynn Williams, Rhwng Ddoe a Heddiw: Casgliad o Delynegion Cymraeg, (Wrecsam, 1926), tt. 13–18
- Emrys ap Iwan: Cofiant (Caernarfon, 1912). [Cofiant]
- Llenyddiaeth y Cymry: Llawlyfr i Erfydwyr (Dinbych, 1915). [Hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.]
- (Gol.) T. Gwynn Jones, Ceiriog (Wrecsam, 1927).
- Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd ganrif ar bumtheg (Caernarfon, 1920)
- (Casg. a gol.) T. Gwynn Jones, Y Gelfyddyd Gwta (Aberystwyth, 1929).[24]
- (Gol.) T. Gwynn Jones, Talhaiarn (Aberystwyth, 1930).
- Brithgofion (Llandybïe, 1944). [Darn o hunangofiant.][25]
- (Gol.) T. Gwynn Jones, O Oes i Oes (Wrecsam, 1917).
- Llyfr Gwion Bach (Wrecsam, 1924).
- Plant Bach Tŷ Gwyn (Caerdydd, 1928).
- Yn Oes yr Arth a’r Blaidd (Wrecsam, 1913).
- Dyddgwaith (Wrecsam, 1937).[26]
- ‘Lluniau o Gawr y Llenor’, Barddas, rhif. 212–213 (Rhagfyr 1994–Ionawr 1995), t. 47.
- ‘Rhagair’ yn Ioan Brothen, (gol.) John W. Jones, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942).
- T. Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn, Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd, 1950).
- (Gol.) T. Gwynn Jones, Troeon Bywyd (Wrecsam, 1936).
- Cerddi ’74 (Llandysul, 1974).
- Bardism and Romance: a Study of the Welsh Literary Tradition (Llundain, 1914). [Astudiaeth]
- Modern Welsh Literature (Aberystwyth, 1936).
- Casgliad o eiriau llafar Dyffryn Aman (Caerdydd, 1931).
- ‘Rhagair’, yn (gol.) John W. Jones, Yr Awen Barod: cyfrol goffa Gwilym Deudraeth (1863–1940) (Llandysul, 1943).
- Y Dwymyn, 1934–35 (Aberystwyth, 1944). [Cerddi]
- Cultural Basis: a study of the Tudor period in Wales (, 1921).
- Llenyddiaeth Wyddelig (Lerpwl, 1916).
- Cân y Nadolig (Llangollen, 1945).
- The Culture and Tradition of Wales (Wrecsam, 1927).
- ‘Rhagair’ yn D. Emrys James, Odl a Chynghanedd (Llandybïe, 1961).
- Cofiant Thomas Gee (Dinbych, 1913). [Un o'r cofiannau mwyaf trwyadl a welwyd yn y Gymraeg, ar fywyd a chyfnod y cyhoeddwr Thomas Gee.]
- (Casg.) Llen Cymru (Caernarfon, 1921).
- (Casg.) Llen Cymru: Rhan 2 (Caernarfon, 1922).
- (Casg.) Llen Cymru: Rhan 3 (Aberystwyth, 1926).
- (Casg.) Llen Cymru: Rhan 4 (Aberystwyth, 1927).
- Homerus, (cyf.) R. Morris Lewis gydag ychwanegiadau, rhagair ac anodiadau T. Gwynn Jones, Iliad Homer, (Wrecsam, 1928).
- Daniel Owen, 1836–1895 (Caerdydd, 1936).
- Daniel Owen, (gol.) T. Gwynn Jones, Profedigaeth Enoc Huws (Wrecsam, 1939).[27]
- Y Cerddor (Aberystwyth, 1913).
- Am ragor, gweler A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Casg.) Owen Williams (Wrecsam, 1938)
- Eglwys y Dyn Tlawd (1892)
Beirniadaeth ac astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Owen Williams (casg.) , A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Wrecsam, 1938)
- "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor cyf. 28 (Haf 1949)
- W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1970)
- D. Ben Rees, Pumtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (Pontypridd, 1972)
- Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth Thomas Gwynn Jones: Astudiaeth (Llandysul, 1972)
- David Jenkins, Thomas Gwynn Jones - Cofiant (Gwasg Gee, 1973)
- D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
- Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones (Llandybïe, 1982)
- David Jenkins (gol.), Bro a Bywyd: T. Gwynn Jones 1871-1949 (Caerdydd, 1984)
- Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949 (Aberystwyth, 2019)
Mewn ffuglen
[golygu | golygu cod]Sonir yn fyr am helynt y cadeirio ym Mangor yn 1902 (gweler Nodiadau isod) yn y nofel Chwalfa gan T. Rowland Hughes. Sonir am nofel Gwynn Lona yn Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd.
Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gan nad oedd yr eisteddfod yn rhoi gwybod i gystadleuydd ei fod wedi ennill cyn y cyhoeddiad yn y cyfnod hwn, nid oedd T Gwynn yn bresennol i gael ei gadeirio ar ddydd Iau'r cadeirio. Ei gyfaill Beriah Gwynfe Evans gafodd ei gadeirio yn ei le. Cyflwynwyd y Gadair i T Gwynn ar y dydd Gwener. Llun o'r cyflwyniad yw hwn.[9]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Llwyd, Alan (2019). Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949. Cyhoeddiadau Barddas.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Williams, Huw Llewelyn (1950), 'T. Gwynn Jones', Y Traethodydd Cyf. CV t.110. "Dyma fy newis o feirdd mawr Cymru o ddyddiau'r Gogynfeirdd: Hywel ab Owain Gwynedd; Dafydd ap Gwilym; Tudur Aled; Pantycelyn; Goronwy Owen a Gwynn Jones."
- ↑ 2.0 2.1 Williams, Alun Llewelyn (1971) 'T. Gwynn Jones: Gorchest y Bardd', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, t.119
- ↑ Gruffydd, W. J. (1954) 'T. Gwynn Jones', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, t.43
- ↑ 4.0 4.1 Rhys, Robert. "T. Gwynn Jones and the Rennaisance of Welsh Poetry" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-18.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Thomas Gwynn Jones (Y Bywgraffiadur)". Cyrchwyd 2024-09-18.
- ↑ Llwyd, t. 80.
- ↑ Llwyd, t. 144.
- ↑ Llwyd, t. 141-2.
- ↑ 9.0 9.1 "CADEIRIO Y BARDD - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1902-09-18. Cyrchwyd 2023-10-17.
- ↑ Price, Stephen (2024-04-14). "Publisher unearths early Welsh science fiction novel". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-14.
- ↑ Llwyd, t. 250.
- ↑ Llwyd, t. 270.
- ↑ Llwyd, t. 274-5.
- ↑ Morgan, Derec Llwyd (1991) 'Rhagymadrodd' yn Jones, T. Gwynn, Caniadau, Hughes a'i Fab.
- ↑ Llwyd, t. 80.
- ↑ Llwyd, Alan (1914) Cofiant Hedd Wyn, Y Lolfa.
- ↑ 17.0 17.1 Thomas, Ffion Mai (1942) 'R. Silyn Roberts', Y Traethodydd Cyf. XCVII (XI) t.89
- ↑ 18.0 18.1 Lewis, Llŷr (2024-04-14). "T. Gwynn Jones (Yr Esboniadur)". Porth: Yr Esboniadur. Cyrchwyd 2024-04-14.
- ↑ Llwyd, t. 139.
- ↑ Astudiaethau T Gwynn Jones Astudiaethau T Gwynn Jones ar Wicidestun
- ↑ Brethyn Cartref ar Wicidestun
- ↑ Cymeriadau (T. Gwynn Jones) ar Wicidestun
- ↑ Cerddi Hanes ar Wicidestun
- ↑ Y Gelfyddyd Gwta ar Wicidestun
- ↑ Brithgofion ar Wicidestun
- ↑ Dyddgwaith ar Wicidestun
- ↑ Profedigaethau Enoc Huws (1939) Ar Wicidestun