Cofeb Thiepval i Golledigion y Somme

Oddi ar Wicipedia
Cofeb Thiepval i Golledigion y Somme
Enghraifft o'r canlynolCommonwealth War Graves Commission maintained memorial Edit this on Wikidata
Rhan oFunerary and memory sites of the First World War (Western Front) Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Awst 1932 Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolThiepval Memorial to the Missing of the Somme Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthAuthuille Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cofeb Thiepval

Cofeb rhyfel o bwys yw Cofeb Thiepval i Golledigion y Somme (Saesneg:Thiepval Memorial to the Missing of the Somme). Mae'n coffau 72,090 o filwyr colledig Prydain a'r Gymanwlad a fu farw ym Mrwydr y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac sydd heb fedd a wyddwn amdani. Lleolir ger pentref Thiepval, Picardie yn Ffrainc.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y cofeb tua 200 metr i'r de-ddwyrain o'r hen Thiepval Chateau, a oedd wedi ei leoli r dir is, ger Coedwig Thiepval. Roedd tir y chateau gwreiddiol yn anaddas a buasai wedi golygu gorfod symud y mynwentydd a ddaeth i fod o amgylch gorsafoedd cymorth meddygol y rhyfel.

Agorodd canolfan ymwelwyr yn 2004, ac mae gan y Royal British Legion gynrychiolydd yno.

Dyluniad ac urddiad[golygu | golygu cod]

Mae gan y cofeb, sy'n domineiddio'r ardal gwledig, 16 piler o frics coch, gyda wynebau o garreg Portland rhyngddynt sy'n codi at fwa oddi uwch iddynt. Mae'n 150 troedfedd (46 metr) o daldra, a sylfeini 19 troedfedd (6 metr) o drwch. Roedd angen y sylfaen i fod yn sylweddol oherwydd y twnelu helaeth a fu o dan safle'r strwythur yn ystod y rhyfel. Dyluniwyd y gofeb gan Syr Edwin Lutyens, ac adeiladwyd hi rhwng 1928 a 1932. Hon yw'r gofeb brwydr Prydeinig mwyaf yn y byd. Urddwyd hi gan Dywysog Cymru (Brenin Edward VIII yn ddiweddarach) ym mhresenoldeb Albert Lebrun, Arlywydd Ffrainc, ar 31 Gorffennaf 1932.

Arysgrifau[golygu | golygu cod]

Price Davies o Fryn Celyn, Bryn Saith Marchog, un o'r miloedd o enwau ymysg yr arysgrifau

Mae'r cofeb yn cynnwys enwau milwyr sydd ar goll neu heb gael eu hadnabod, rhai sydd heb fedd a wyddwn amdani. Mae arysgrif mawr yng nghanol y gofeb:

Here are recorded names of officers and men of the British Armies who fell on the Somme battlefields July 1915 February 1918 but to whom the fortune of war denied the known and honoured burial given to their comrades in death.

Ar y wynebau o garreg Portland, mae enwau dros 72,000 o filwyr wedi eu arysgrifio, milwyr a gollodd eu bywydau ym mrwydrau'r Soome rhwng Gorffennaf 1916 a Mawrth 1918, bu farw'r nifer helaeth yn ystod Brwydr Cyntaf y Somme rhwng 1 Gorffennaf a 4 Tachwedd 1916. Pan fydd corff milwr sydd yn cael ei enwi ar y gofeb yn cael ei ganfod, mae'n derbyn angladd gyda anrhydeddau milwrol llawn a caiff ei gladdu yn y fynwent agosaf i lle'i canfyddir, a caiff ei enw ei dynnu oddi ar y gofeb i'r milwyr colledig. Mae hyn wedi gadael nifer o fylchau gwag ar y gofeb.

Cofeb Eingl-Ffrengig[golygu | golygu cod]

Mae Cofeb Thiepval hefyd yn gwasanaethu fel cofeb brwydr Eingl-Ffrengig er mwyn coffau ffurf cydweithredol yr ymosodiad ym 1916. Lleolir 300 bedd y Gymanwlad a 300 bedd Ffrengig wrth droed y cofeb. Mae'r rhan fwyaf o'r milwyr a gladdwyd yma'n ddi-enw. Mae beddi'r Gymanwlad yn gerrig gwyn hirsgwar, tra bod y beddi Ffrengig yn groesi cerrig llwyd.

Seremonïau a gwasanaethau[golygu | golygu cod]

Ar ben-blwydd y diwrnod cyntaf ar y Somme, 1 Gorffennaf, cynhelir seremoni mawr ger y cofeb. Mae hefyd seremoni flynyddol ar 11 Tachwedd, sy'n dechrau am 10:45 CET.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]