Carreg Portland
Jump to navigation
Jump to search
Mae carreg Portland yn galchfaen o'r cyfnod Jurasig sy'n cael ei gloddio ar Ynys Portland, Dorset.
Mae'r chwareli wedi'u cyfansoddi o welyau o galchfaen llwyd-wyn wedi'u gwahanu gan welyau o gornfaen.
Mae'r garreg yn cael ei hystyried yn un o gerrig adeiladu gorau Ynysoedd Prydain, ac mae'r adeiladau sydd wedi'u gwneud â hi yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Adeiladau eraill a wnaed â charreg Portland[golygu | golygu cod y dudalen]
- Adeiladau Parc Cathays, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
- Castell Rufus, Ynys Portland
- Adeilad Porthladd Lerpwl, Lerpwl, adeiladwyd 1907
- Cadeirlan Sant Paul, Llundain, adeiladwyd 1677
- Palas Buckingham, Llundain
- Y Senotaff, Whitehall, Llundain
- 100 King Street, Manceinion, adeiladwyd 1935
- Palas Westminster, Llundain