Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Neuadd y Ddinas
Cardiff City Hall cropped.jpg
Math neuadd dinas Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1906 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Parc Cathays Edit this on Wikidata
Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.485°N 3.179°W Edit this on Wikidata
Cod post CF10 3ND Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata

Adeilad ym Mharc Cathays, Caerdydd, yw Neuadd y Ddinas, a'i adeiladwyd rhwng 1901 a 1905. Fe'i gynlluniwyd ar y cyd â Llys y Goron Caerdydd gan y penseiri Lanchester, Stewart a Rickards, a enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad ym 1897. Ystyrir Neuadd y Ddinas yn un o uchafbwyntiau'r adfywiad o bensaernïaeth Baróc yn nheyrnasiad Edward VII.[1]

Rhagflaenwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Safai guildhall tref canoloesol Caerdydd yng nghanol y Stryd Fawr; roedd gan yr adeilad hwn farchnad ar y llawr isaf. Yn 1742–7 dymchwelwyd yr adeilad hwn a chodwyd neuadd newydd i'r dref ar yr un safle, yn cadw'r farchnad ac yn ychwanegu carchar i'r llawr gwaelod.[2] Rhyw ganrif yn hwyrach cynhalwyd gystadleuaeth am adeilad newydd ar gyfer Neuadd y Dref a'r Cyfnewidfa Ŷd. Enillwyd hyn gan Horace Jones (a gynlluniodd Tower Bridge yn Llundain yn hwyrach yn ei yrfa), ac agorwyd yr adeilad newydd ar Heol Eglwys Fair, yn yr arddull neo-glasurol, ym 1853. Fe'i estynwyd yn 1876 gan James, Seward a Thomas, ffỳrm pensaernïol o Gaerdydd.[3] Ym 1915 codwyd adeilad a elwir heddiw yn Hodge House ar y safle hwnnw.[4]

Hanes a disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd cystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad cyntaf ym Mharc Cathays, sef neuadd y dref a'r llysoedd barn, ym 1897,[5] ar ôl i'r cyngor brynu'r tir oddi wrth Ardalydd Bute. Enillwyr y gystadleuaeth, allan o 56 o ymgeiswyr, oedd Edwin Afred Rickards o'r ffỳrm Lanchester, Stewart a Rickards.[6] Ffurfiwyd y bartneriaeth yn arbennig ar gyfer ymuno â'r gystadleuaeth hon gan Rickards a'i gyd-benseiri Henry Vaughan Lanchester a James Stewart.[7] Y pensaer Fictoraidd o fry Syr Alfred Waterhouse a fu'n barnu'r gystadleuaeth.[8] Cynhaliwyd seremoni gosod y maen cyntaf ym 1901 ac ym 1906 agorwyd Neuadd y Ddinas yn swyddogol gan Ardalydd Bute.[6] Enillodd Caerdydd ei statws fel dinas yn y flwyddyn flaenorol.[9]

Newidiwyd y cynlluniau yn sylwyeddol rhwng ennill y gystadleuaeth a'r hyn gafodd ei adeiladu i arddull mwy blodeuog y Baróc, gyda dylanwadau cryf o Awstria, de'r Almaen a Ffrainc.[9] Roedd y fath ddylanwadau yn anarferol ym mhensaernïaeth Baróc Edwardaidd, a arferai cyfeirio at waith y pensaer o Sais, Syr Christopher Wren.[5] Mae'r cerfluniau ar y ffasâd yn cynnwys ffigyrau yn cynrychioli afonydd Caerdydd, sef Taf, Rhymni ac Elái,[10] ac alegorïau o Gerddoriaeth a Barddoniaeth (gan Paul Montford) ac Undod a Gwladgarwch (gan Henry Poole).[11] Ceir dau grŵp arall o gerfluniau sy'n cyfateb i'r ddau uchod ar ffasâd y llysoedd barn; dyma'r unig enghraifft yng ngwledydd Prydain o ddau adeilad dinesig yn cael eu cynllunio ar y cyd.[12] Gwaith y cerflunwydd Henry Charles Fehr yw'r ddraig plwm ar ben y gromen.[10]

Y Neuadd Farmor[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerfluniau yn y Neuadd Farmor: (chwith i dde) Llywelyn Ein Llyw Olaf, Williams Pantycelyn, Syr Thomas Picton ac Owain Glyn Dŵr

Cynlluniwyd y grisiau yn arwain at yr Ystafell Gynnull ag wyth pedestal a dau gilfach gwag, ac o ganlyniad i hyn fe benderfynwyd y dylid eu llenwi â cherfluniau o arwyr Cymreig.[13] Cytunodd y diwydiannwr a gwleidydd David Alfred Thomas i'w hariannu ac fe benodwyd Yr Athro Thomas Powel, Syr Thomas Marchant a'r Aelod Seneddol W. Llewelyn Williams i farnu pwy y dylid eu coffáu. I feithrin diddordeb cynhaliwyd gystadleuaeth gan y Western Mail yn annog i bobl ysgrifennu rhestrau eu hunain; roedd gwobr o £20 ar gael i'r rheiny â rhestrau yn cyfateb yn union i'r hyn a baratowyd gan yr ysgolheigion, ond enillodd neb y wobr.[14] Agorwyd y Neuadd Farmor gan David Lloyd George, y Weinidog Rhyfel ar y pryd, ar 27 Hydref 1916.[15] Dyma restr o'r cerfluniau:

Yn niwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddengys Neuadd y Ddinas ar glawr y sengl "Mulder and Scully" (1998) gan Catatonia, mewn delwedd a'i ysbrydolwyd gan boster y ffilm Independence Day. Ynddo caiff Neuadd y Ddinas (yn hytrach na'r Tŷ Gwyn yn Washington, D.C.) ei drywanu gan belydr o beth hedegog anhysbus.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Morey 2008, t. 189
  2. Hilling 1973, tt. 23–4
  3. Hilling 1973, t. 77
  4. Newman 1995, t. 213
  5. 5.0 5.1 Service 1979, t. 146
  6. 6.0 6.1 Hilling 1973, t. 147
  7. Fellows 1995, t. 93
  8. Fellows 1995, t. 92
  9. 9.0 9.1 Newman 1995, t. 222
  10. 10.0 10.1 Chappell 1946, t. 22
  11. Newman 1995, t. 223
  12. Morey 2008, tt. 187–8
  13. Chappell 1946, t. 24
  14.  Huws, Richard E. (3 Rhagfyr 1982). 90 mlynedd yn ôl. 100 Arwyr Cymru. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2013. (Yn Y Faner yn wreiddiol.)
  15. Chappell 1946, t. 26
  16. (Saesneg) Thomas John Clapperton Jnr. Mapping the Practice and Profession of Sculpture in Britain and Ireland 1851–1951. Prifysgol Glasgow (2011). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2013.
  17. Newman 1995, t. 224

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Chappell, Edgar L. (1946). Cardiff's Civic Centre: A historical guide. Caerdydd: Priory Press.
  • Fellows, Richard (1995). Edwardian Architecture: Style and technology. Llundain: Lund Humphries.
  • Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries.
  • Morey, Ian (2008). British Provincial Civic Design and the Building of Late-Victorian and Edwardian Cities. Lewiston (Efrog Newydd) a Llanbedr Pont Steffan: E. Mellen Press.
  • Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.
  • Service, Alastair (1979). Edwardian Architecture: A handbook to building design in Britain, 1890–1914. Llundain: Thames & Hudson.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]