Ardalydd Bute
Gwedd
| Enghraifft o: | teitl bonheddig, teulu |
|---|---|
| Math | Ardalydd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0285jt |
Teitl bonedd yw Ardalydd Bute. Fe'i dygwyd gan y teulu Crichton-Stuart, disgynyddion o dŷ brenhinol Albanaidd y Stiwardiaid; cyfeiria'r teitl at Ynys Bute yn yr Alban. Chwaraeodd yr ail a'r trydydd ardalydd, a'u gelwid ill dau yn John Crichton-Stuart, ran nodweddiadol yn nhwf Caerdydd yn y 19eg ganrif. Adeiladodd yr ail ardalydd dociau'r dref yn Tiger Bay lle enwir Tre-Biwt ar ei ôl, a bu'r trydydd ardalydd yn gyfrifol am adnewyddu Castell Caerdydd a Chastell Coch.