Tiger Bay

Oddi ar Wicipedia
Tiger Bay
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTre-Biwt Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.458°N 3.17°W Edit this on Wikidata
Map
Tiger Bay: llun o ddociau Caerdydd dros gan mlynedd yn ôl.
Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd Tiger Bay (gwahaniaethu).

Tiger Bay (Bae Teigr) oedd yr enw hanesyddol am yr ardal o amgylch porthladd Caerdydd, Cymru, yn cynnwys Tre-Biwt (Butetown). Ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf a phrysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel Bae Caerdydd. Ond mae llawer o bobl leol yn dal i'w alw'n Tiger Bay (ni fagodd enw Cymraeg).

Hanes[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd datblygiad Dociau Caerdydd ran bwysig yn hanes datblygu dinas Caerdydd ei hun a dyfodd o fod yn dref arfordirol fechan i fod yn ddinas fwyaf Cymru a'i phrifddinas. Trwy'r dociau hyn yr allforwyd rhan helaeth o lo Cymoedd y De i weddill y byd, ac ar un adeg porthladd Caerdydd oedd un o'r porthladdoedd prysuraf yn y byd gyda 10,700,000 tunnell o lo yn cael ei allforio ohono erbyn 1913.

Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd llif cryf y dŵr rhwng y dociau ac Afon Hafren.

Yn Tiger Bay ymgartrefodd pobl o tua 45 o genhedloedd, gan gynnwys Norwyaid, Somaliaid, Iemeniaid, Sbaenwyr, Eidalwyr, Gwyddelod a phobl o'r Caribî gan roi cymeriad amlddiwylliannol arbennig i'r ardal. Yn wahanol i hanes cymunedau o fewnfudwyr mewn dinasoedd mawr fel Efrog Newydd, ymododdai cymunedau [Diaspora|diaspora]] Tiger Bay i'w gilydd, gyda phobl yn cymysgu a phriodi.

Y tu allan i'r gymuned, roedd gan Tiger Bay enw am fod yn ardal galed a pheryglus. Un rheswm am hynny oedd y ffaith fod morwyr o bob rhan o'r byd yn aros yno dros dro wrth i'w llongau gael eu llwytho neu eu dadlwytho yn y dociau. O ganlyniad daeth Tiger Bay yn ardal golau coch adnabyddus ac roedd lefel trais a throsedd yn uchel hefyd a'r drwgweithredwyr yn dianc ar eu llongau o afael y gyfraith. Ond i'r bobl leol oedd yn byw yno ac yn ei adnabod roedd Tiger Bay yn lle cyfeillgar gyda chymuned glos.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd bu trai ar lewyrch y dociau a dirywiodd Tiger Bay yn ardal ddifreintiedig gyda nifer o adeiladau gwag a phrinder gwaith yno. Dirywiodd yn gyflym. Yn y 1960au dymchwelwyd y rhan fwyaf o'r tai teras, y tafarnau a'r siopau cornel.[1]

Diwylliant a phobl[golygu | golygu cod]

Yn y 19g, yng ngweddill Cymru a'r tu hwnt, roedd gan Tiger Bay dipyn o enw fel lle garw. Daeth yr enw "Tiger Bay" yn rhan o fratiaith y morwyr ar draws y byd am unrhyw ardal gyffelyb.[2] Mae yna ddisgrifiad o 1865 yn datgelu mwy, wrth son am ardal o'r un enw yn Llundain. Byddai'r morwyr yn wyliadurws o'r gweithwyr rhyw ac eraill oedd yn llechu yng nghysgodion yr ardal, ac yn eu gweld fel teigrod yn barod i lamu ar y morwyr oedd wedi meddwi, a'u lladrata.[3]

Canodd Meic Stevens am y 'Bay' a dociau Caerdydd. Saethwyd y rhan fwyaf o'r ffim Tiger Bay (1959) yn yr ardal a sêr y ffilm honno yw John Mills, ei ferch Hayley Mills yn ei rôl actio gyntaf, a Horst Buchholz.

Ganwyd y gantores Shirley Bassey yn Tiger Bay, yn ogystal â rheolwr tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru, Ryan Giggs.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Tiger Bay ar wefan BBC Cymru
  2. Victorian London
  3. (Saesneg) The Origin of 'Tiger Bay' in Cardiff.. Anthony Rhys (8 Ebrill 2019). Adalwyd ar 4 Mehefin 2021.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]