Eglwys Norwyaidd, Caerdydd
| Math | eglwys |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Caerdydd |
| Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.461°N 3.162°W |
| Cod post | CF10 4DJ |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Adeilad hanesyddol yng Nghaerdydd yw'r Eglwys Norwyaidd, a fu gynt yn ganolfan addoli i gymuned Norwyaidd Caerdydd ond sydd bellach yn atyniad twristaidd. Saif ar lan Bae Caerdydd ger yr hen ddociau, heb fod nepell o adeilad y Senedd.
Yn y 19g, Caerdydd oedd y trydydd porthladd mwyaf yng ngwledydd Prydain ar ôl Llundain a Lerpwl. Roedd gan Norwy lynges fasnachol fawr ar y pryd, y trydydd mwyaf yn y byd o ran nifer y llongau, a daeth Caerdydd yn un o'i chanolfannau pwysicaf. Tyfodd cymuned Norwyaidd yno, un o sawl cymuned o dramorwyr a gafodd gartref yn ardal Tiger Bay, ger y dociau.
Daeth y Sjømannskirken – 'Eglwys y Morwyr' Norwyaidd neu 'Eglwys Norwy Dramor', sy'n rhan o Eglwys Norwy – i ymsefydlu ym Mae Caerdydd yn 1868 a chodwyd eglwys neilltuol ar gyfer y morwyr Norwyaidd.
Eglwys bren drawiadol ydy'r Eglwys Norwyaidd, wedi'i phaentio yn y dull Norwyaidd.
Bedyddwyd y llenor Cymreig o dras Norwyaidd Roald Dahl yn yr eglwys.
Erbyn heddiw mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan y celfyddydau o'r enw 'Canolfan Celfyddydau yr Eglwys Norwyaidd' (Norwegian Church Arts Centre). Ceir amgueddfa fechan ger llaw sy'n dangos hanes yr eglwys a Dociau Caerdydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2019-09-14 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Hanes yr eglwys - Archifwyd 2008-05-14 yn y Peiriant Wayback
