Adeilad y Senedd
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Y Senedd (adeilad y Cynulliad))
| Math | adeilad gweinyddiaeth gyhoeddus, senedd-dy |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 1 Mawrth 2006 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Bae Caerdydd, Afon Taf |
| Cyfesurynnau | 51.4639°N 3.1621°W |
| Cod post | CF99 1SN |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth gynaliadwy |
| Perchnogaeth | Senedd Cymru |
Cartref i Senedd Cymru yw adeilad y Senedd, a godwyd ar lan Bae Caerdydd yng Nghaerdydd. Lleolir y siambr ddadlau ac ystafelloedd pwyllgor o fewn yr adeilad.
Cynlluniwyd yr adeilad gan RRP, cwmni y pensaer Richard Rogers, ac fe'i adeiladwyd ar gost o £69.6 milliwn. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan Elisabeth II ar y cyntaf o Fawrth, 2006.
Cyhoeddwyd llyfr am yr adeilad gan yr awdur Trevor Fishlock, yn 2011, Senedd.[1]
Yn Ebrill 2025 symudodd y gwleidyddion i'r hen dy siambr yn Nhŷ Hywel gerllaw er mwyn ehangu'r siambr. Roedd y gwaith yn adnewyddu'r siambr a cynyddu ei faint i ddal 96 aelod.[2] Ail-agorwyd y siambr ar 24 Chwefror 2026 gyda'r cyfarfod llawn cyntaf yn cael ei gynnal yn y prynhawn.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan gwales.com
- ↑ "Symud byrllysg y Senedd tra'n adnewyddu'r Siambr". BBC Cymru Fyw. 2025-04-08. Cyrchwyd 2026-02-24.
- ↑ "Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i'r Siambr". Golwg360. 2026-02-24. Cyrchwyd 2026-02-24.
Oriel
[golygu | golygu cod]
|





