Roald Dahl
| Roald Dahl | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Medi 1916 Llandaf |
| Bedyddiwyd | 1 Rhagfyr 1916 |
| Bu farw | 23 Tachwedd 1990 Rhydychen |
| Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | sgriptiwr, nofelydd, hunangofiannydd, bardd, awdur storiau byrion, awdur plant, ysgrifennwr, peilot awyren ymladd |
| Swydd | ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | Charlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Mr Cadno Campus, Matilda, Y Gwrachod, Y Twits, Yr CMM, The Gremlins, Moddion Rhyfeddol George, Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr, Nab Wrc, Danny Pencampwr y Byd |
| Arddull | llenyddiaeth arswyd, cyfriniaeth, ffantasi, llenyddiaeth plant |
| Prif ddylanwad | Charles Dickens, C. S. Forester, Frederick Marryat, Jonas Lie, Rudyard Kipling, William Makepeace Thackeray |
| Tad | Harald Dahl |
| Mam | Sofie Magdalene Hesselberg |
| Priod | Patricia Neal, Felicity Dahl |
| Plant | Olivia Dahl, Tessa Dahl, Ophelia Dahl, Theo Dahl, Lucy Dahl |
| Gwobr/au | Gwobr Edgar, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr World Fantasy am Gyflawniad Gydol Oes, Gwobr y Brwsh Paent Aur, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Edgar, Children's Book Award (UK), Q131308510, Q131308511, Q131308535, Premio Bernard Versele, Bancarellino Prize, Q136514842, Q137392788 |
| Gwefan | https://www.roalddahl.com |
Awdur o Sais[1][2][3] oedd yn ysgrifennu nofelau a storïau byrion, a llenor ar gyfer y sgrîn, oedd Roald Dahl (13 Medi 1916 – 23 Tachwedd 1990). Roedd yn enwog am ei lyfrau ar gyfer oedolion a phlant yn arbennig.
Ganwyd Dahl yng Nghaerdydd i rieni o Norwy. Cafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd ar bwys y bae. Mynychodd Ysgol Repton yn Swydd Derby. Daeth i'r amlwg yn y 1940au gyda'i waith ar gyfer plant ac oedolion, gan ddod yn un o awduron mwyaf poblogaidd y byd. Datgelwyd yn y 1980au iddo weithio fel asiant ddirgel ar gyfer MI6, Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Dramor Prydain, gan wasanaethu yn yr Unol Daleithiau i hybu buddion Prydain ac i frwydro yn erbyn symudiad "America First", gan weithio ar y cyd gydag Ian Fleming a David Ogilvy.[4] Mae'r llyfr hanesyddol, "The Irregulars" gan Jennet Conant (2008, Simon and Schuster) yn disgrifio'r cyfnod hwn ym mywyd Dahl a'i gyfoeswyr.
Mae llyfrau mwyaf poblogaidd Dahl yn cynnwys Y Twits, Charlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Matilda, Y Gwrachod ac Yr CMM.
Teulu
[golygu | golygu cod]Pan oedd yn bedwar mis oed, cafodd Theo Dahl anafiadau drwg pan drawodd tacsi ei bram. Fe ddioddefodd o hydrocephalus, ac fel canlyniad, daeth Dahl i ymwneud gyda datblygiad y falf "Wade-Dahl-Till" (neu'r falf WDT), dyfais i leddfu'r cyflwr.[5][6]
Priododd Dahl yr actores Americanaidd, Patricia Neal, ar 2 Gorffennaf 1953 yn Eglwys y Drindod, Dinas Efrog Newydd. Parhaodd y briodas 30 mlynedd a chawsont bump o blant: Olivia (a fu farw o frech-wen encephalitis, yn saith oed), Tessa, Theo, Ophelia, a Lucy. Cysegrwyd y llyfr The BFG i Olivia.
Yn 1965, dioddefodd Neal dri ebychiad aneurysm ymenyddol tra'n feichiog gyda'u pumed plentyn, Lucy; fe gymerodd Dahl reolaeth o'i adferiad, ac fe ailddysgodd sut i gerdded a siarad yn y diwedd.[7] Ar ôl priodas gythryblus, cawsant ysgariad yn 1983, ac fe ail-briododd Dahl Felicity ("Liccy") d'Abreu Crosland (ganwyd 12 Rhagfyr 1938), a oedd 22 mlynedd yn iau nag ef.
Mae Ophelia Dahl yn gyfarwyddwr ac yn gyd-sefydlydd (gyda Paul Farmer) cymdeithas ddi-elw Partners in Health, sy'n darparu gofal iechyd i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae Lucy Dahl yn llenor ar gyfer y sgrin yn Los Angeles. Mae merch Tessa, Sophie Dahl (a ysbrydolodd Dahl i greu cymeriad Sophie, prif gymeriad Y CMM) yn fodel ac yn awdures, mae hi'n cofio Roald Dahl fel "dyn anodd iawn – cryf iawn, dominyddol ... ddim yn annhebyg i tad y chwiorydd Mitford yn rhuo o gwmpas y tŷ yn dweud ei farn yn swnllyd, gan wahardd rhai bechgyn rhag ymweld â'r tŷ."[8] Mae un o nifer o wyrion Dahl yn mynychu'r Royal Palm Academy.[9]
Diwrnod Roald Dahl
[golygu | golygu cod]Yn ddiweddar, mae diwrnod pen-blwydd Dahl, 13 Medi, wedi cael ei ddathlu yn eang fel Diwrnod Roald Dahl.[10][11]
Ar benwythnos 17/18 Medi 2016 cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd i ddathlu canmlwyddiant geni Dahl. Daeth torf o filoedd i weld y digwyddiadau 'annisgwyl' oedd wedi eu seilio ar waith llenyddol yr awdur, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru. [12]
Llenyddiaeth plant
[golygu | golygu cod]Roedd mam Dahl yn arfer adrodd straeon iddo ef a'i chwiorydd am greaduriaid mytholegol Norwyaidd, ac mae nifer o'i lyfrau'n cyfeirio at y rhain neu wedi cael eu hysbrydoli gan y straeon, megis y cewri yn The BFG. Darlunwyd nifer o'i lyfrau gan Quentin Blake.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Rhestr Gweithiau
[golygu | golygu cod]Gwaith ar gyfer Plant
[golygu | golygu cod]Storïau Plant
[golygu | golygu cod]
(1982)
- The Gremlins (1943)
- James a'r Eirinen Wlanog Enfawr (Saesneg: James and the Giant Peach) (1961) — Ffilm: James and the Giant Peach (animeiddio) (1996)
- Charlie a'r Ffatri Siocled (Saesneg: Charlie and the Chocolate Factory) (1964) — Ffilmiau: Willy Wonka & the Chocolate Factory (1971) a Charlie and the Chocolate Factory (2005)
- Y Bys Hud (Saesneg: The Magic Finger) (1966)
- Mr Cadno Campus (Saesneg: Fantastic Mr Fox) (1970) — Ffilm: Fantastic Mr. Fox (animeiddio)
- Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (Saesneg: Charlie and the Great Glass Elevator) (1972) Dilyniant i Charlie and the Chocolate Factory.
- Danny Pencampwr y Byd (Saesneg: Danny the Champion of the World) (1975) — Ffilm: Danny the Champion of the World (ffilm teledu) (1989)
- The Wonderful Story of Henry Sugar and Six More (1977)
- Y Crocodeil Anferthol – (1) cyfieithydd Emily Huws; (2) cyfieithydd Elin Meek (Saesneg: The Enormous Crocodile) (1978)
- Y Twits (Saesneg: The Twits) (1980)
- Moddion Rhyfeddol George (Saesneg: George's Marvelous Medicine) (1981)
- Yr CMM (Saesneg: The BFG) (1982) — Ffilm: The BFG (animeiddio) (1989)
- Y Gwrachod (Saesneg: The Witches) (1983) — Ffilm: The Witches (1990)
- Jiráff, a'r Pelican a Fi (Saesneg: The Giraffe and the Pelly and Me) (1985)
- Matilda (1988) — Ffilm: ''Matilda (1996)
- Nab Wrc (Saesneg: Esio Trot) (1989)
- The Minpins (1991)
- The Vicar of Nibbleswicke (1991)
Barddoniaeth Plant
[golygu | golygu cod]
(Rhyme Stew) (1989)
- Ffi Ffai Ffiaidd (Saesneg: Revolting Rhymes) (1982)
- Ych-A-Fi (Saesneg: Dirty Beasts) (1983)
- Pastai Odl (Saesneg: Rhyme Stew) (1989)
Ffuglen ar gyfer Oedolion
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- Sometime Never: A Fable for Supermen (1948)
- My Uncle Oswald (1979)
Casgliadau Storïau Byrion
[golygu | golygu cod]- Over To You: Ten Stories of Flyers and Flying (1946)
- Someone Like You (1953)
- Kiss Kiss (1960)
- Twenty-Nine Kisses from Roald Dahl (1969)
- Tales of the Unexpected (1979)
- Switch Bitch (1974) ISBN 0-1400-4179-6
- More Tales of the Unexpected (1980)
- The Best of Roald Dahl (1978)
- Roald Dahl's Book of Ghost Stories (1983). Golygwyd gyda rhagair gan Dahl.
- Ah, Sweet Mystery of Life: The Country Stories of Roald Dahl (1989)
- The Collected Short Stories of Dahl (1991)
- Two Fables (1986). "Princess and the Poacher" a "Princess Mammalia".
- The Great Automatic Grammatizator (1997). (Adnabyddir yn yr Unol Daleithiau dan yr enw The Umbrella Man and Other Stories).
- Skin And Other Stories (2002)
- Roald Dahl: Collected Stories (2006)
Ffeithiol
[golygu | golygu cod]- The Mildenhall Treasure (1946, 1977, 1999)
- Boy – Tales of Childhood (1984) Atgofion hyd oedran 16, gan ganolbwyntio yn arbenig ar addysgu ym Mhrydain yn nechrau'r 20g.
- Going Solo (1986) Dilyniant iw hunanatgofiant, ynddi mae'n mynd i weithio i Shell ac yn gwario amser yn gweithio yn Tansanïa cyn ymuno â ymdrech y rhyfel gan fod yn un o'r peilotau cynghreiriol olaf i adael Gwlad Groeg yn ystod y goresgyniad Almaeneg.
- Measles, a Dangerous Illness (1986)[13]
- Memories with Food at Gipsy House (1991)
- Roald Dahl's Guide to Railway Safety (1991)
- My Year (1993)
- The Roald Dahl Ominibus (1993)
Dramâu
[golygu | golygu cod]- The Honeys (1955) Cynhyrchwyd yn Theatr Longacre ar Broadway.
Sgriptiau Ffilm
[golygu | golygu cod]- 36 Hours (1965)
- You Only Live Twice (1967)
- Chitty Chitty Bang Bang (1968)
- The Night Digger (1971)
- Willy Wonka & the Chocolate Factory (1971)
Teledu
[golygu | golygu cod]- Way Out (1961) Cyfres Arswyd a gynhyrchwyd gan David Susskind
- Alfred Hitchcock Presents ysgrifennwyd penodau gan Roald Dahl:
- Alfred Hitchcock Presents: "Lamb to the Slaughter" (1958)
- Alfred Hitchcock Presents: "Dip in the Pool" (1958)
- Alfred Hitchcock Presents: "Poison" (1958)
- Alfred Hitchcock Presents: "Man from the South" (1960)
- Alfred Hitchcock Presents: "Mrs. Bixby and the Colonel's Coat" (1960)
- Alfred Hitchcock Presents: "The Landlady" (1961)
- Tales of the Unexpected (1979-88), ysgrifennwyd a chyflwynwyd penodau gan Roald Dahl
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dahl, Roald (2013). Going solo. Internet Archive. London : Puffin. tt. 23, 55. ISBN 978-0-14-134987-9.
Page 23: "Only three young Englishmen men ran the Shell company in the whole of that vast territory and I was the youngest and the junior." Page 55: "There were not a lot of young Englishmen in Dar, perhaps 15 or 20 at the most and all of us..."
- ↑ "Roald Dahl and Norway". web.archive.org. 2015-07-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-04. Cyrchwyd 2023-10-21.
very English indeed
CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link) - ↑ Dennison, Matthew (2023-01-03). Roald Dahl: Teller of the Unexpected: A Biography (yn Saesneg). Simon and Schuster. ISBN 978-1-63936-333-9.
'very English, you know, born and bred, in spite of my name', 'an Englishman who lives in England'
- ↑ "The Irregulars", Jennet Conant, Simon and Schuster 2008
- ↑ Water on the Brain. MedGadget: Internet Journal of Emerging Medical Technologies (15 Gorffennaf 2005).
- ↑ Dr Andrew Larner. Tales of the Unexpected: Roald Dahl’s Neurological Contributions. Advances in Clinical Neuroscience and Rehabilitation.
- ↑ Barry Farrell (1969). Pat and Roald. Kingsport Press
- ↑ "a very difficult man – very strong, very dominant ... not unlike the father of the Mitford sisters sort of roaring round the house with these very loud opinions, banning certain types – foppish boys, you know – from coming round."
- ↑ "royalpalmacademy.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-23. Cyrchwyd 2008-11-12.
- ↑ Roald Dahl Day celebrations Archifwyd 2009-09-08 yn y Peiriant Wayback, Roald Dahl Museum and Story Centre
- ↑ Roald Dahl's 90th Birthday! Archifwyd 2008-12-05 yn y Peiriant Wayback, Random House UK
- ↑ Troi Caerdydd yn lle hud a lledrith ar gyfer dathliadau Dahl , BBC Cymru Fyw, 17 Medi 2016. Cyrchwyd ar 19 Medi 2016.
- ↑ Ffynhonnell: ysgrifennwyd ar gyfer taflen a gyhoeddwyd yn 1986 gan y 'Sandwell Health Authority' (Sandwell and West Birmingham Hospitals NHS Trust erbyn heddiw). Ailgynhyrchwyd http://www.blacktriangle.org/blog/?p=715 yma Archifwyd 2006-10-12 yn y Peiriant Wayback