Rudyard Kipling

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rudyard Kipling

Awdur a bardd yn yr iaith Saesneg a anwyd ym Mumbai (Bombay) India oedd Joseph Rudyard Kipling (30 Rhagfyr, 1865 - 18 Ionawr, 1936). Roedd yn awdur cynhyrchiol ac mae nifer o'i straeon a nofelau'n lleoledig yn India. Mae'n enwocaf am ei lyfrau straeon i blant The Jungle Book (1894) a Just So Stories (1902). Cyhoedd hefyd y straeon byrion yn Plain Tales from the Hills (1888), y nofel Kim (1901), a'r cerddi Gunga Din ac If— yn y gyfrol Ballad Room Ballads and Other Verses (1892).

Am beth amser ar ôl ei farwolaeth, roedd yn amhoblogaidd mewn cylchoedd llenyddol oherwydd ei fod yn ymddangos ei fod yn amddiffyn "Imperialaeth Orllewinol" a'r Ymerodraeth Brydeinig yn neilltuol. Roedd yn fwyaf poblogaidd yn yr 1900au ac fe'i wobrwyd â Gwobr Llenyddiaeth Nobel yn 1907 y person ieungcaf i ennil y wobr ydyw.

Fe gynigwyd y teitlau "Syr" a "Llenor-fardd Prydeinig" iddo, ond fe wrthododd.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanna Jones oedd ei Nain, merch o Ddinbych a aned yn 1809. Pan oedd yn ferch ifanc, aeth i Fanceinion lle priododd y Parch George Brown Macdonald, gweinidog gyda'r Wesleiaid. Caswant saith o ferched a phedwar bachgen. Un o'r merched oedd Georgina a briododd Edward Burne-Jones, yr arlunydd a chyfaill i William Morris. Dwy arall o ferched Hanna a George oedd Louisa a briododd berchennog gwaith haearn, ac aelod seneddol, sef Alfred Baldwin, ac Alice a briododd John Lockwood Kipling. Ar lan Llyn Rudyard, yn Swydd Stafford y cyfarfu Alice a John a phan gawsant fab, galwyd efo yn Rudyard Kipling.

Nofelau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Jungle Book (1894)
  • Captains Courageous (1897)
  • Kim (1901)
  • Life's Handicap (1915)
  • Puck of Pook's Hill (1906)
  • Stalky & Co. (1899)
  • The Light That Failed (1890)
  • The Second Jungle Book (1895)
  • The Story of the Gadsbys (1888)