William Morris (1834–1896)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William Morris gan George Frederic Watts, 1870

Pensaer, dylunydd, arlunydd, bardd a sosialydd Seisnig oedd William Morris (24 Mawrth 18343 Hydref 1896).

Ganed ef yn Walthamstow, yn fab i William Morris a'i wraig Emma Morris. Aeth i Brifysgol Rhydychen, ac yn 1856, daeth yn brentis i'r pensaer Neo-Gothig G. E. Street. Yr un flwyddyn, sefydlodd yr Oxford and Cambridge Magazine. Yn 1861, ffurfiodd gwmni dylunio gyda'r arlunydd Edward Burne-Jones, a'r bardd ac arlunydd Dante Gabriel Rossetti, cwmni a gafodd ddylanwad mawr ar ddylunio yn Lloegr a thu hwnt.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth, ffuglen ac addasiadau o destunau canoloesol, yn cynnwys The Defence of Guenevere and Other Poems (1858), The Earthly Paradise (1868–1870), A Dream of John Ball a News from Nowhere. Sefydlodd y Cynghrair Sosialaidd yn 1884.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.