Symbolaeth (celf)
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, cultural movement, mudiad llenyddol ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1857 ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc, Gwlad Belg, Ymerodraeth Rwsia ![]() |
![]() |

Mudiad celf yn ail hanner y 19g, yn Ffrainc yn bennaf, oedd Symbolaeth. Tarddai o fudiad llenyddol Symbolaeth a arddelid gan feirdd Ffrengig oedd yn defnyddio iaith hynod o symbolaidd, llawn awgrymiadau ac arddull cynnil, i fynegi emosiynau'r unigolyn. Ymdrechai arlunwyr Symbolaidd, mewn modd tebyg, i gynrychioli neu ysgogi syniadau neu deimladau drwy arwyddion a throsiadau yn eu gwaith.
Datblygodd arluniaeth Symbolaidd mewn adwaith yn erbyn celf Realaidd ac Argraffiadaeth. Ffafriodd y Symbolwyr ffantasi a'r dychymyg yn hytrach na delweddaeth wrthrychol, ac yn y mudiad hwn mae gwreiddiau celf haniaethol. Buont yn tynnu ar themâu cyfriniaeth, yr ocwlt, a chwedloniaeth yn eu celf. Roedd yn gysylltiedig ag Esthetiaeth yn Lloegr a'r Unol Daleithiau. Ymhlith y prif arlunwyr Symbolaidd mae Gustave Moreau, Odilon Redon, a Pierre Puvis de Chavannes.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Symbolism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2019.