Y Tŷ Coch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Red House
Golygfa o'r ardd
Enwau eraill Tŷ Coch
Gwybodaeth gyffredinol
Arddull bensaernïol 'Celf a Chrefft'
Lleoliad Red House Lane, Bexleyheath, Llundain, Lloegr
Gorffenwyd 1859 (1859)
Cynllunio ac adeiladu
Client William Morris
Perchennog Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Pensaer

Mae'r Tŷ Coch yn dŷ sylweddol o arddull Celf a Chrefft ac sydd wedi'i leoli yn nhref Bexleyheath yn Ne-ddwyrain Llundain, Lloegr. Cyd-gynlluniodd y tŷ yn 1859 gan y pensaer Philip Webb a'r dylunydd William Morris fel cartref teuluol ar gyfer Morris, gyda'r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau yn 1860. Mae'n cael ei gydnabod fel un o'r enghreifftiau pwysicaf o bensaernïaeth y 19g yng ngwledydd Prydain, sy'n dal i fodoli.

Yn dilyn ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, lle daeth ef ac Edward Burne-Jones yn ffrindiau am oes, gan rannu llawer o ddiddordebau, gan gynnwys eu hoffter o'r chwedlau Arthuraidd.[1] Derbyniodd radd BA yn 1856. Dylanwad arall arno oedd y beiriniad celf John Ruskin, a'i ysgrif "On the Nature of Gothic Architecture" yn ei gyfrol The Stones of Venice.[2]

Penderfynodd Morris adeiladu tŷ gwledig iddo ef a'i wraig newydd, Jane Morris (nee Burden), o fewn pellter cymudo o ganol Llundain.[3] Prynodd llain o dir yn yr hyn a oedd unwaith y pentref Upton ger Beckley yng Nghaint. Cyflogodd ei ffrind Webb i'w helpu i gynllunio ac adeiladu'r tŷ, ariannodd y prosiect gydag arian a etifeddwyd oddi wrth ei deulu cyfoethog.[4] Dylanwadwyd yn fawr ar Morris gan arddulliau Neo-Gothig Canoloesol sy'n cael ei adlewyrchu drwy'r adeilad. Fe'i adeiladwyd gan ddefnyddio ethos Morris ar sgiliau a chrefftwaith y crefftwr, gan adlewyrchu enghraifftiau cynnar o hyn a ddaeth i gael ei adnabod fel "Y Mudiad Celf a Chrefft".

Y Tŷ Coch yn 2015

Ymwelodd nifer o ffrindiau Morris a'r Tŷ Coch, yn fwyaf nodedig oedd y peintwyr Cyn-Raffaelaidd Edward Burne-Jones a Dante Gabriel Rossetti, y ddau ohonynt wedi cynorthwyo i addurno'r Tŷ Coch; mae amryw o furluniau wal gan Burne-Jones yn goroesi er gwaethaf newid perchnogion yr adeilad drwy'r 20g. Tra'n byw yno ffurfiodd Morris ei gwmni dylunio: sef 'Morris, Marshall, Faulkner & Co', a chychwyn ar ei ddyluniadau papur wal cynharaf. Hefyd yn fan hyn y ganwyd ei ddwy ferch, Jenny a Mai. Roedd yn bwriadu byw yno am weddill ei oes, ond roedd y lle yn rhy ddrud i'w rhedeg ac nid oedd yn addas ar gyfer ei ffordd o fyw, felly symudodd allan a gwerthu'r eiddo ar ôl pum mlynedd.

Murluniau yn Y Tŷ Coch yn 2015
Dodrefn yn y Tŷ Coch

Arhosodd Y Tŷ Coch yn gartref preifat ar gyfer gwahanol unigolion 1866-2002. O 1952 hyd 1999 roedd y pensaer Edward Hollamby yn byw yn y Tŷ, a chychwynodd ymgais i gadw'r Tŷ a sefydlu "Cyfeillion y Tŷ Coch" yn 1998. Prynwyd y Tŷ ar gyfer Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2003.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mackail 1901, pp. 34–35; MacCarthy 1994, pp. 52, 56–58.
  2. Mackail 1901, p. 38; Thompson 1955, pp. 32–35; MacCarthy 1994, pp. 69–71.
  3. Mackail 1901, t. 140.
  4. Mackail 1901, t. 139.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Kirk, Sheila (2005). Philip Webb: A Pioneer of Arts and Crafts Architecture. Llundain: Wiley-Academic.
Lethaby, W.R. (1979). Philip Webb and His Work. Llundain: Oak Press.
Waithe, Marcus (2004). "The Stranger at the Gate: Privacy, Property, and the Structures of Welcome at William Morris's Red House". Victorian Studies 46 (4): 567–595.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: