Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr

Oddi ar Wicipedia
John Wesley

Enwad ymneilltuol yw Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr, sy’n fwy adnabyddus fel y Methodistaid Wesleaidd neu y Wesleaid. Drwy Wledydd Prydain mae gan yr enwad tua 330,000 o aelodau a 6,000 o eglwysi.

Datblygodd Methodistiaeth fel symudiad o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yn ystod y 18g. Datblygodd Methodistiaeth Wesleaidd o bregethu John Wesley, oedd yn offeiriad yn Eglwys Loegr.Bu nifer o ymraniadau yn ystod y 19g, ond yn raddol ad-unwyd y rhain yn rhan gyntaf yr 20g. Ffurfiwyd yr Eglwys Fethodistaidd bresennol yn 1932, pan ddaeth y tri enwad mwyaf at ei gilydd.

Wesleaeth yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Bu John Wesley yn pregethu yng Nghymru nifer o wethiau, ond cyfyngwyd ar ei lwyddiant gan anawsterau iaith. Y Methodistaid Calfinaidd, gan arweiniaid Daniel Rowland a Howell Harris oedd y cryfaf o lawer o’r enwadau Methodistaidd yng Nghymru. Roedd rhywfaint o gydweithrediad rhwng y ddau fudiad, ond roedd gwahaniaethau diwinyddol hefyd, gyda’r Wesleaid yn coleddu Arminiaeth yn hytrach na Chalfiniaeth. Chwaraeodd Edward Jones (Bathafarn) le pwysig yn sefydlu'r enwad: Lleinw le pwysig yn hanes cynnar yr enwad yn rhinwedd ei waith fel arloeswr yn Rhuthun a'r cyffiniau cyn i'r genhadaeth Gymraeg gael ei chreu ac oblegid ei lafur diflino fel gweinidog Cymraeg.

Ar y cychwyn, sefydlwyd capeli Wesleaidd yn bennaf mewn ardaloedd lle roedd nifer sylweddol o ymfudwyr o Loger neu o gwmpas y gororau. Mae capel Aberriw ym Mhowys yn enghraifft gynnar, yn dyddio o 1797. Adwaenir yr enwad yng Nghymru fel Eglwys Fethodistaidd (Cymru).

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.