John Wesley
| John Wesley | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Mehefin 1703 (yn y Calendr Iwliaidd) Epworth |
| Bu farw | 2 Mawrth 1791 St Luke's |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gweinidog Methodistiaid, dyddiadurwr, athronydd, cyfieithydd, emynydd, cenhadwr, offeiriad, ysgrifennwr, diwinydd, diddymwr caethwasiaeth |
| Prif ddylanwad | Ioan, Martin Luther |
| Dydd gŵyl | 2 Mawrth |
| Tad | Samuel Wesley |
| Mam | Susanna Wesley |
| Priod | Mary Vazeille |
| llofnod | |
Clerigwr ac efengylydd Seisnig oedd John Wesley (17 Mehefin 1703 - 2 Mawrth 1791).
Ganed ef yn Epworth yn Swydd Lincoln yn fab i Samuel Wesley a'i wraig Susanna Annesley. Daeth dan ddylanwad y Morafiaid, a dechreuodd efelychu George Whitefield trwy bregethu yn yr awyr agored. Yn wahanol i Whitefield, nid oedd yn Galfinydd. Ystyrir ef fel sylfaenydd enwad y Methodistiaid Wesleaidd.
Bu John Wesley yn pregethu yng Nghymru nifer o wethiau, ond cyfyngwyd ar ei lwyddiant gan anawsterau iaith. Y Methodistaid Calfinaidd, gan arweiniaid Daniel Rowland a Howell Harris oedd y cryfaf o lawer o’r enwadau Methodistaidd yng Nghymru. Roedd rhywfaint o gydweithrediad rhwng y ddau fudiad, ond roedd gwahaniaethau diwinyddol hefyd, gyda’r Wesleaid yn coleddu Arminiaeth yn hytrach na Chalfiniaeth.

Roedd yr emynydd Charles Wesley yn frawd iddo.