Charles Wesley

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Wesley
Charles Wesley.jpg
Ganwyd 18 Rhagfyr 1707 Edit this on Wikidata
North Lincolnshire Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Mawrth 1788 Edit this on Wikidata (80 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth diwinydd, athronydd, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Tad Samuel Wesley Edit this on Wikidata
Mam Susanna Wesley Edit this on Wikidata
Priod Sarah Wesley Edit this on Wikidata
Plant Charles Wesley, Samuel Wesley Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gospel Music Hall of Fame Edit this on Wikidata

Clerigwr, efengylydd ac emynydd Seisnig oedd Charles Wesley (18 Rhagfyr 1707 - 29 Mawrth 1788). Roedd yn un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr.

Ganed ef yn Epworth yn Swydd Lincoln yn fab i Samuel Wesley a'i wraig Susanna Annesley. Roedd yn frawd iau i'r efengylydd John Wesley. Fel ei dad a'i frawd, urddwyd ef yn offeiriad yn Eglwys Loegr. Priododd Sarah Gwynne, merch Marmaduke Gwynne, oedd wedi ei droi at Fethodistiaeth gan Howell Harris.

Cyfansoddodd tua phum mil a hanner o emynau i gyd. Ymhlith y mwyaf adnabyddus mae Hark, The Herald Angels Sing, Jesus, Lover of My Soul a Love Divine, All Loves Excelling. Cyfieithiwyd cryn nifer o'i emynau i'r Gymraeg.