MI6

Oddi ar Wicipedia
MI6
Vauxhall Cross, pencadlys MI6
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth cudd-wybodaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1909 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadChief of the Secret Intelligence Service Edit this on Wikidata
SylfaenyddMansfield Smith-Cumming Edit this on Wikidata
RhagflaenyddDirectorate of Military Intelligence Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadY Swyddfa Dramor a Chymanwlad Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain, Vauxhall Cross Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sis.gov.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

MI6 yw'r enw arferol a roddir ar y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol[1] (Saesneg: Secret Intelligence Service neu'r (SIS)), un o asiantaethau diogelwch y Deyrnas Unedig. Y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yw asiantaeth cudd-ymchwil allanol y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o gymuned cudd-ymchwil y wladwriaeth honno. Mae'n cyd-weithio â'r Gwasanaethau Diogelwch (MI5), Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gweithlu Cudd-ymchwil Amddiffyn o dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Cudd-ymchwil ar y Cyd (y Joint Intelligence Committee (JIC)). Syr John Scarlett yw'r pennaeth presennol.[2]

Ers 1995, lleolir pencadlys y Gwasanaeth Gwybodaeth Gyfrinachol yn Vauxhall Cross ar lan ddeheuol Afon Tafwys, yn Llundain.

Gweithgareddau[golygu | golygu cod]

Wrth i UDA a'r DU baratoi i oresgyn Irac in 2003, gweithredodd MI6 "Operation Mass Appeal", sef ymgyrch i blannu straeon ffug yng nghyfryngau gwledydd Prydain am arfau dinistriol torfol (WMD) ym meddiant Irac er mwyn cefnogi'r llywodraethau hynny, a oedd yn ceisio defnyddio'r honiad am y WMDau fel esgus cyfreithiol dros y rhyfel yn y Cenhedloedd Unedig. Cafodd yr ymgyrch cudd yma ei ddatguddio gan y Sunday Times yn Rhagfyr 2003.[3] Mae honiadau gan y cyn-swyddog MI6 Scott Ritter yn awgrymu fod yr asiantaeth yn gyfrifol am ymgyrchoedd propaganda cyffelyb yn erbyn Irac ers y 1990au cynnar. Mae Ritter yn dweud bod MI6 wedi ei recriwtio yn 1997 i cynorthwyo'r ymgyrch propaganda. Dywed: "The aim was to convince the public that Iraq was a far greater threat than it actually was."[3] Mae gweithgareddau o'r fath yn mynd yn erbyn rheolau gweithredol MI6 ei hun, am nad yw'n fod i ymyrryd ym materion mewnol y DU.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yr enw Cymraeg swyddogol, yn ôl MI5
  2. [1]
  3. 3.0 3.1  Nicholas Rufford (28 Rhagfyr 2003). Revealed: how MI6 sold the Iraq war. Sunday Times.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato