Shirley Bassey

Oddi ar Wicipedia
Shirley Bassey
GanwydShirley Veronica Bassey Edit this on Wikidata
8 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
Tiger Bay Edit this on Wikidata
Man preswylMonaco Edit this on Wikidata
Label recordioPhilips Records, Columbia Records, United Artists Records, Decca Records, Geffen Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Mayfield College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Cymdeithion Anrhydedd, Knight of the Order of Saint-Charles Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.dameshirleybassey.world/ Edit this on Wikidata

Cantores o Gymraes yw Shirley Veronica Bassey DBE (ganwyd 8 Ionawr 1937), yn enedigol o Gaerdydd.

Mae ei chaneuon enwocaf yn cynnwys As Long as He Needs Me (1960), What Now My Love (1962), I, Who Have Nothing (1963) Goldfinger (1964), Big Spender (1967), "Something" (1970) a Diamonds are Forever (1971). Ym 1995, cafodd ei phleidleisio fel Personoliaeth y Flwyddyn ym Myd Adloniant gan y Variety Club Prydeinig. Hi oedd yr artist Cymreig cyntaf i fynd i rif un yn siart senglau y Deyrnas Unedig.[1]

O'i genedigaeth tan 1960: Ei Llwyddiannau Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bassey yn 182 Stryd Bute, Tiger Bay, Caerdydd i forwr o dad a oedd yn Efik Nigeriaidd a mam o Swydd Efrog. Ysgarodd ei rhieni pan oedd yn dair oed. Fe'i magwyd yn ardal dosbarth gweithiol y ddinas yn Tiger Bay. Yr ieuengaf o saith o blant, gadawodd Bassey Ysgol Moorland yn 15 oed gan fynd i weithio mewn ffatri a pherfformio mewn clybiau lleol ar y penwythnosau. Yn fuan iawn, trodd yn gantores broffesiynol a chafodd nifer o senglau llwyddiannus tu hwnt a gyrfa a ymestynnodd dros bedwar degawd. Ym 1953, perfformiodd mewn sioe gerdd o'r enw Memories of Jolson a oedd yn seiliedig ar fywyd y canwr Al Jolson. Yna symudodd ymlaen i Hot from Harlem a barhaodd tan 1954.

Erbyn hyn, roedd Bassey wedi cael ei dadrithio gan fyd canu a beichiogodd yn 16 oed gyda'i merch Sharon a dychwelodd i weithio fel gweinyddes yng Nghaerdydd. Ym 1955 fodd bynnag, cafodd ei henw ei grybwyll i Michael Sullivan, asiant o Streatham ac ail-ddechreuodd ei gyrfa. Pan welodd ef Bassey, penderfynodd fod ganddi'r potensial i fod yn seren. Teithiodd Bassey gan berfformio mewn amryw theatrau tan iddi dderbyn rhan mewn sioe a ddaeth ag enwogrwydd iddi sef sioe Al Read Such is Life yn Theatre yr Adelphi yn y West End yn Llundain. Tra'n y sioe hwn, cynigiodd Johnny Franz, cynhyrchydd recordiau, gytundeb recordio iddi. Recordiodd Bassey ei record cyntaf o'r enw Burn My Candle a gafodd ei ryddhau ym mis Chwefror 1956 pan oedd Bassey yn 19 oed yn unig.

O ganlyniad i eiriau awgrymog y gân, penderfynodd y BBC ei gwahardd. Serch hynny, gwerthodd y record yn dda, yn enwedig gyda fersiwn pwerus Bassey o Stormy Weather. Dilynwyd hyn gan fwy o senglau ac ym mis Chwefror 1957, cafodd Bassey ei llwyddiant mawr cyntaf gyda "Banana Boat Song" a aeth i rif 8 yn y Siart Senglau Prydeinig. Yn yr un flwyddyn recordiodd y sengl If I Had a Needle and Thread o dan arweiniad y cynhyrchydd Americanaidd Mitch Mitchell o dan y label Columbia. Yng nghanol 1958, recordiodd ddwy sengl a fyddai'n datblygu i fod yn glasuron yng ngyrfa gerddorol Bassey: "As I Love You" a oedd ar ail ochr sengl y gân serch "Hands Across the Sea". Nid oedd y gwerthiant yn dda fodd bynnag, ond wedi iddi berfformio yn y Palladium yn Llundain gwelwyd cynnydd yn y gwerthiant. Ym mis Chwefror 1959, cyrhaeddodd rif 1 yn y siart ac arhosodd yno am bedair wythnos. Recordiodd Bassey "Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me" hefyd yr un cyfnod ac wrth i "As I Love You" ddringo'r siart, gwnaeth "Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me" hefyd, gyda'r ddwy gân yn nhri uchaf y siart yr un pryd. Rhai misoedd yn ddiweddarach, arwyddodd Bassey gytundeb gyda EMI Columbia, a dechreuodd yr ail gyfnod yn ei gyrfa.

1960 - 1980[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau ac yng nghanol y 1960au, cafodd Bassey lawer o lwyddiant yn siartiau cerddorol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pum albwm a gyrhaeddodd y 15 uchaf. Ym 1960, cyrhaeddodd ei recordiad o "As Long As He Needs Me" o Olover! gan Lionel Bart #2, a bu yn y siart am 30 wythnos. Ym 1962, cydweithiodd Bassey gyda Nelson Riddle a'i gerddorfa i gynhyrchu'r albwm "Let's Face the Music" (#12) a'r sengl "What Now My Love" (#5). Roedd caneuon eraill o'r cyfnod a aeth i Ddeg Uchaf y siart yn cynnwys ei hail #1, gyda'r ochr-A-dwbl "Reach for the Stars" / Climb Ev'ry Mountain" (1961), "I'll Get By" (hefyd ym 1961), a'i fersiwn hi o gân lwyddiannus Ben E. King "I (Who Have Nothing)" ym 1963. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, gwahoddodd John F. Kennedy Bassey i ganu yn ei Ddawns Urddo. Ym 1965, mwynhaodd Bassey ei chân lwyddiannus cyntaf yn siart yr Unol Daleithiau gyda'r gân Goldfinger o'r ffilm James Bond o'r un enw. Yn sgîl llwyddiant y gân honno, ymddangosodd Bassey ar nifer o sioeau siarad Americanaidd fel y rhai a gyflwynwyd gan Johnny Carson a Mike Douglas. Hefyd ym 1965, canodd y trac teitl ar gyfer y ffilm ddychanol o James Bond, The Liquidator, ac aeth yr albwm a recordiodd yn fyw yn Pigalle Llundain i'r 20 Uchaf.

Ar ôl 1964, cafodd y sengl "Goldfinger" ddylanwad hir-dymor ar ei gyrfa; pan yn ysgrifennu nodiadau ar gyfer clawr yr albwm Bassey's 25th Anniversary Album' ym 1978, dywed Clayton fod: "Acceptance in America was considerably helped by the enormous popularity of (Goldfinger)...But she had actually established herself there as early as 1961, in cabaret in New York. She was also a success in Las Vegas...'I suppose I should feel hurt that I've never been really big in America on record since Goldfinger...But, concertwise, I always sell out.'..."[2] Adlewyrchwyd hyn yn y ffaith mai dim ond un o LPs Bassey a gyrhaeddodd yr 20 Uchaf yn siart yr Unol Daleithiau, (R&B, Live at Carnegie Hall), ac felly roedd yn "llwyddiant un-cân," a ymddangosodd unwaith yn unig ym 40 Uchaf y Billboard Hot 100, gyda "Goldfinger". Serch hynny, ar ôl "Goldfinger" dechreuodd ei gwerthiant leihau yn y Deyrnas Unedig hefyd, gyda dwy o'i senglau'n unig yn cyrraedd y 40 Uchaf tan 1970. Roedd ganddi gytundeb gyda United Artists, a threuliodd ei halbwm cyntaf gyda'r label hynny, sef "I've Got a Song for You" (1966), wythnos yn y siart; o bryd hynny tan 1970, dim ond dwy o'i halbymau aeth i 40 Uchaf y siart, gydag un o'r albymau hynny yn gasgliad o ganeuon. Ym 1967 fodd bynnag, rhyddhawyd un o'i senglau enwocaf "Big Spender", er iddo gyrraedd ychydig tu allan i 20 Uchaf y Deyrnas Unedig yn unig.

1980 - 1999[golygu | golygu cod]

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r 1980au, canolbwyntiodd Bassey ar waith elusennol gan berfformio ambell daith gyngherddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Roedd ei chytundeb gyda EMI-United Artists wedi dod i ben a dechreuodd Bassey yr hyn a gyfeiriodd ato fel 'ymddeoliad-rhannol'. Ym 1982, recordiodd Bassey albwm o'r enw All by Myself a gwnaeth raglen deledu arbennig ar gyfer Thames Television o'r enw A Special Lady gyda Robert Goulet yn westai iddi. Ym 1983 recordiodd ddeuawd gydag Alain Delon, "Thought I'd Ring You", a fu'n llwyddiannus yn Ewrop. Bellach roedd Bassey yn recordio tipyn llai ond rhyddhaodd albwm o'i chaneuon mwyaf adnabyddus ym 1984, I Am What I Am, a berfformiwyd gyda Cherddorfa Simffoni Llundain. Ym 1986, rhyddhaodd sengl a fideo i gefnogi Bwrdd Twristiaeth Llundain, There's No Place Like London. Ym 1987 recordiodd albwm o draciau sain James Bond, The Bond Collection, ond mae'n debyg ei bod yn anhapus gyda'r canlyniad, ac felly gwrthododd ei ryddhau. (Pum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau ta beth. Aeth Bassey ag achos yn erbyn y cwmni a tynnwyd pob copi na werthwyd yn ôl.)[3] Ym 1987 hefyd, recordiodd Bassey ei llais ar gyfer yr artistiaid o'r Swistir Yello ar "The Rhythm Divine", cân a ysgrifennwyd ar y cyd â'r canwr Albanaidd Billy Mackenzie. Ym 1989 rhyddhaodd albwm a oedd wedi ei chanu yn ei chyfanrwydd yn Sbaeneg, La Mujer. Ar ddiwedd canol y 1980au, roedd Bassey wedi dechrau gweithio gyda hyfforddwr lleisiol, cyn ganwr opera, a dangosodd ei halbwm Keep the Music Playing ym 1991 arddull grand, pop operatig ar nifer o'r caneuon (a ddylanwadwyd o bosib gan ei halbwm gyda Cherddorfa Symffoni Llundain rai blynyddoedd ynghynt).

Recordiau Shirley Bassey[golygu | golygu cod]

Philips[golygu | golygu cod]

  • Born To Sing The Blues (1957)
  • Shirley Bassey At The Café De Paris (1957)
  • Bewitching Miss Bassey (1959)

EMI Columbia[golygu | golygu cod]

  • The Fabulous Shirley Bassey (1959)
  • Shirley (1961)
  • Shirley Bassey (1962)
  • Let's Face The Music (1962)
  • Goldfinger [Soundtrack] (1964)
  • Shirley Bassey At The Pigalle (#15 1965)
  • Shirley Stops The Shows (1965)

EMI United Artists[golygu | golygu cod]

  • I've Got A Song For You (1966)
  • And We Were Lovers (1967)
  • 12 Of Those Songs (1968)
  • This Is My Life (1968)
  • La Vita - This Is My Life (1968)
  • Golden Hits Of Shirley Bassey (1968)
  • Does Anybody Miss Me (1969)
  • Live at Talk of the Town (1970)
  • Something (1970)
  • Something Else (1971)
  • Big Spender (1971)
  • It's Magic (1971)
  • The Fabulous Shirley Bassey (1971)
  • What Now My Love (1971)
  • The Shirley Bassey Collection (1972)
  • And I Love You So (1972)
  • I Capricorn (1972)
  • Never, Never, Never (1973)
  • Nobody Does It Like Me (1974)
  • The Shirley Bassey Singles Album (1975)
  • Good Bad But Beautiful (1975)
  • Love Life And Feelings (1976)
  • Thoughts Of Love (1976)
  • You Take My Heart Away (1977)
  • 25th Anniversary Album (1978)
  • Yesterdays (1978)
  • The Magic Is You (1978)
  • What I Did For Love (1979)

Amryw o labeli eraill[golygu | golygu cod]

  • Love Songs (1982)
  • I Am What I Am (1984)
  • La Mujer (1987)
  • Keep the Music Playing (1991)
  • The Best Of Shirley Bassey (1992)
  • Sings Andrew Lloyd Webber (1993)
  • Sings The Movies (1995)
  • The Show Must Go On (1996)
  • The Birthday Concert (1997)
  • Land Of My Fathers
  • The Remix Album: Diamonds Are Forever (2000)
  • The Greatest Hits - This Is My Life (2000)
  • Thank You For The Years (2003)
  • The Columbia/EMI Singles Collection (2006)
  • Get The Party Started (2007)

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Number ones from Wales. BBC Wales.
  2. The Songs of Shirley Bassey Archifwyd 2014-03-07 yn y Peiriant Wayback. Nodiadau clawr yr albwm gan Peter Clayton. "25th Anniversary Album".
  3. Bassey v. Icon Entertainment plc (1995) EMLR 596