Billboard Hot 100

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Siart boblogrwydd senglau cyffredin diwydiant cerddorol yr Unol Daleithiau ydy'r Billboard Hot 100. Darperir y siart yn wythnosol gan gylchgrawn Billboard. Seilir safleoedd yn y siart ar y nifer o weithiau y caiff cân ei chwarae ar y radio yn ogystal ag ar werthiant; dechreua'r wythnos ar gyfer gwerthiant ar ddydd Llun a daw i ben ar ddydd Sul; tra bod yr wythnos ar gyfer chwarae caneuon ar y radio yn mynd o ddydd Mercher tan ddydd Mawrth. Caiff siart newydd ei choladu a'i rhyddhau'n swyddogol i'r cyhoedd gan Billboard ar ddydd Iau. Caiff pob siart ei dyddio gyda dyddiad "wythnos-yn-gorffen" sef y dydd Sadwrn canlynol. Er enghraifft:

Dydd Llun, Ionawr 1 – dechreua wythnos tracio-gwerthiant Dydd Mercher, Ionawr 3 – dechreua wythnos tracio caneuon ar y radio Dydd Sul, Ionawr 7 – diwedda wythnos tracio gwerthiant Dydd Mawrth, Ionawr 9 – diwedda wythnos tracio caneuon ar y radio Dydd Iau, Ionawr 11 – rhyddheuir y siart newydd, gyda dyddiad rhyddhau o ddydd Sadwrn, Ionawr 20. Y gân gyntaf i gyrraedd brig y siart Hot 100 oedd "Poor Little Fool" gan Ricky Nelson ar 4 Awst, 1958.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Music template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.