Meic Stevens

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Meic Stevens
Meic Stevens.jpg
Meic Stevens, Caerdydd; c.1987.
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Louis Michael James
Enw arall Meic Stevens, Y Brawd Houdini
Ganwyd (1942-03-13) 13 Mawrth 1942 (75 oed)
Man geni Baner Cymru Solfach, Sir Benfro
Cerddoriaeth Canu gwerin, Acwstig, Y felan
Offeryn(au) cerdd llais, gitâr, gitâr fâs, harmonica,
Blynyddoedd 1956–presennol
Label(i) recordio Warner Bros. Records, Wren, Recordiau Sain, Tic Toc, Crai, Fflach, Bluetit Records, Tenth Planet, Rhino Handmade, Sunbeam Records
Cysylltiedig Bara Menyn
Heather Jones
Billy Thompson
Alan Stivell
Gwefan [1]
Meic Stevens yng Ngwyl Hanner Cant, 2012

.

Canwr, cyfansoddwr, telynegwr, ac arlunydd Cymraeg yw Meic Stevens (ganwyd 13 Mawrth 1942). Mae Meic Stevens wedi bod yn un o ffigyrau amlycaf y sin cerddoriaeth Gymraeg am dros bum degawd, a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu'r sin cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Disgrifir ef gan rai fel "y Bob Dylan Cymreig" ac mae hefyd wedi cael ei gymharu yn ffafriol gyda cherddorion fel Syd Barrett. Mae Meic yn canu yn y Gymraeg yn bennaf ac wedi dod yn un o'r ffigyrau mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth Gymraeg.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Meic Stevens ei eni yn Louis Michael James ar 13 Mawrth 1942 yn Solfach, Sir Benfro.

Meic yn Eisteddfod Wrecsam, 2011

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynorthwywyd lansiad gyrfa Meic Stevens fel perfformiwr ym 1965 gan y DJ Jimmy Savile, a'i gwelodd yn perfformio mewn clwb canu gwerin ym Manceinion. Y canlyniad oedd i Meic Stevens ryddhau ei sengl gyntaf - wedi'i drefnu gan John Paul Jones (a aeth ymlaen i fod yn aelod o Led Zeppelin) - i Decca Records yn yr un flwyddyn (ond ni werthodd yn dda).

Ym 1967 dioddefodd Meic oherwydd problemau meddyliol ac aeth yn ôl i Solfach i adfer ei iechyd. Dechreuodd ysgrifennu caneuon Cymraeg mewn ymdrech ymwybodol i geisio creu cerddoriaeth boblogaidd nodweddiadol Gymreig. Rhwng 1967-69 recordiodd gyfres o EPs Cymraeg (Rhif 2, Mŵg, Y Brawd Houdini, Diolch yn Fawr, Byw yn y Wlad) i stiwdios Sain a Wren. Perfformiodd ar draws Prydain hefyd yn y 1960au (er enghraifft i'w gyfaill Gary Farr ar ei albwm cyntaf i label Marmalade). Rhyddhaodd ei albwm gyntaf yn y Saesneg, Outlander, ar label Warner Bros. ym 1970. Fel ei LPs eraill o'r cyfnod hwnnw, fel Gwymon a Gôg, mae'n albwm prin heddiw.

Yn 1972 rhyddhawyd Gwymon (Dryw), albwm sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel Gwely Gwag, Merch O'r Ffatri Wlân a Daeth Neb Yn Ôl.

Symudodd Meic i fyw i Lydaw ym 1974. Fe ddychwelwyd ym 1977, a recordio Gôg (Sain, 1977), ei albwm gorau yn ôl rhai. Ym 1978 ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer yr opera roc Dic Penderyn a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae Caneuon Cynnar Rhif 1 (Tic Toc, 1981) yn gasgliad gwych o'i hen ganeuon wedi ei recordio o'r newydd.

Hefyd yn 1981, rhyddhawyd casét o ganeuon newydd yn Saesneg gyda'r Cadillacs i gyd-fynd gyda thaith i Lydaw, Cider Glider (The Farnham Sessions). Ail ryddhawyd hon ar Voodoo Blues: 1979-92 gan Blue Tit ym 1994 gyda thraciau ychwanegol.

Mae Nos Du, Nos Da (Sain, 1982) yn glasur, sy'n cynnwys rhai o'i ganeuon gorau fel Môr O Gariad, Bobby Sands a Dic Penderyn. Roedd Gitâr Yn Y Twll Dan Star (Sain, 1983) yn cynnwys caneuon o'r opera roc coll Hirdaith A Chraith Y Garreg Ddu. Defnyddiodd y Cadillacs unwaith eto ar gyfer recordio Lapis Lazuli (Sain, 1985) sy'n cynnwys Erwan, un o'i ganeuon mwyaf prydferth.

Rhyddhawyd Gwin A Mwg A Merched Drwg ym 1987 ar gasét yn unig. Roedd aelodau'r band yn cynnwys rhai o gerddorion gorau sesiwn Llundain, gyda Brian Godding, gynt o Blossom Toes, yn eu mysg. Nid yw hwn, na'r ddau albwm blaenorol, ar gael ar CD.

Symudodd label o Sain i Fflach ar gyfer Bywyd Ac Angau yn 1989. Roedd hon yn albwm dwyieithog ac yn fwy gwerinol ei naws. Recordiwyd 'Ware'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur) yn Stiwdio Les, Bethesda, a hon oedd ei CD cyntaf, rhyddhawyd gan Sain ym 1991. Dilynwyd hwnnw gan Er Cof Am Blant Y Cwm ar Crai, sy'n cynnwys y gân anfarwol o'r un enw.

Recordiwyd Meic Stevens Yn Fyw (Sain) ym Mhabell Swroco yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ym 1995 - perfformiad a recordiad gwych; fe'i rhyddhawyd ar gasét yn unig.

Ysgrifennwyd rhan helaeth o'r caneuon oddi ar Mihangel (Crai) gyda Rob Mills. Ar y cyfan, roedd hon yn albwm siomedig.

Rhyddhawyd Ysbryd Solva (Sain) yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002, ac yn yr un flwyddyn recordiwyd Meic A'r Gerddorfa yn Neuadd Y Brangwyn Abertawe a Neuadd Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Erbyn Icarws (Sain, 2007), roedd Meic yn cydweithio unwaith eto gyda Geraint Jarman. Fel Caneuon Cynnar Rhif 1 ac Ysbryd Solva, mae hon yn gasgliad o'i hen ganeuon wedi eu recordio o'r newydd.

Recordiwyd An Evening With Meic Stevens yn 2007 yn fyw yn Yr Half Moon, Putney, Llundain, ar gyfer Sunbeam. Rhyddhawyd DVD o'r gyngerdd, y cyntaf gan y dewin o Solfach.

Yn 2008, cafodd ei albwm Gwymon ei ail-gyhoeddi ar label Sunbeam gyda dwy drac byw yn ychwanegol at y caneuon ar yr albwm gwreiddiol.

Yn 2010 cyhoeddodd Sain yr albwm, Love Songs. Gyda'r caneuon oll yn Saesneg, ysgrifennwyd llawer ohonynt pan oedd Meic yn lanc 18 oed yn 1959.

Yn Awst 2011, cyhoeddwyd ei hunangofiant dadleuol diweddaraf, 'Mas o 'Ma'.

Yn 2011, cyhoeddodd Meic Stevens ei fod am fudo i Ganada i ymuno efo'i hen gariad, Liz, a chwrddodd â hi yn ystod ei amser fel myfyriwr celf yng Nghaerdydd yn y 1960au cynnar. Mae Meic wedi chwarae sawl gig ffarwelio yng Nghymru cyn ymadael am Ganada.[1]

Dylanwad ar Artistiaid Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth chwarae yn y grŵp Bara Menyn yn niwedd y 1960au, cafodd Meic Stevens ddylanwad uniongyrchol ar yr artistiaid Heather Jones a Geraint Jarman. Parhaodd y dylanwad yma ar waith Heather Jones wrth iddi hi a Meic Stevens berfformio yn aml gyda'i gilydd ar lwyfannau led-led Cymru yn ystod y degawdau nesaf. Gellir clywed dylanwad brand arbennig Meic Stevens o roc gwerin yng ngwaith bandiau Cymraeg cyfoes fel Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci. Mae'r artist Gai Toms yn enwi Meic Stevens fel y prif ddylanwad a ysgogodd ef i ddechrau ysgrifennu a pherfformio ei ganeuon ei hun. Mae dylanwad arddull werin nodweddiadol Meic Stevens yn amlwg yng ngwaith Gai Toms, yn enwedig ar ddeunydd Mim Twm Llai. Yn ddiweddar, perfformiodd Alun Tan Lan fersiwn o'r gân "Cwm y Pren Helyg" gan Meic Stevens.

Discograffiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfrau Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Hunangofiannau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd hunangofiant Meic Stevens mewn tair rhan:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddcymru.png Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato