Heather Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Heather Jones
Ganwyd 12 Mehefin 1949 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Label recordio Cwmni Recordiau Sain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Canwr Edit this on Wikidata

Cantores o Gymraes yw Heather Jones (ganwyd 12 Mehefin 1949).[1][2] Mae wedi bod yn flaengar yn y sîn cerddoriaeth gwerin yn y Gymraeg a'r Saesneg ers yr 1970au[3] a bu'n aelod o fand Meic Stevens am flynyddoedd.[4] Un o'i chaneuon mwyaf adnabyddus yw "Colli Iaith", cerdd gan Harri Webb a recordiwyd fel cân yn 1971.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn 3 St Brioc Road, Caerdydd lle bu'n byw am ugain mlynedd. Mae ganddi ddau frawd, Malcolm (Mac) a Gareth.[1] Mynychodd ysgolion cynradd Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Cathays. Dysgodd Gymraeg fel ail-iaith.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

1960au ac 1970au[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra yn yr ysgol, roedd hi'n aelod o'r grŵp canu ysgafn Y Meillion. Rhyddhawyd ei record gyntaf, yr EP Caneuon Heather Jones, ym 1968 ar Welsh Teldisc. Ymddangosodd ar deledu am y tro cyntaf yn 1966, ar y rhaglen Hob y Deri Dando. Blwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd sengl "Ddoi Di" i label Cambrian, a ffurfiodd Y Bara Menyn gyda'i darpar-ŵr Geraint Jarman a Meic Stevens. Rhyddhawyd dwy EP ar Dryw.

Ar ôl i'r grŵp chwalu rhyddhawyd EP Heather ar label Newyddion Da. Ym 1971 ac 1972 recordiwyd dwy EP ar Sain, gyda'r grŵp roc James Hogg: Colli Iaith a Cwm Hiraeth. Enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1972 gyda'r gân Pan Ddaw'r Dydd, cân a ysgrifennwyd gan Geraint Jarman. Yn 1972 hefyd cafodd gyfres ei hun ar y teledu, Gwrando Ar Fy Nghân - cyfres o chwe rhaglen. Blwyddyn yn ddiweddarach, ddaeth y cyfle gan Sain i recordio ei halbwm cyntaf, Mae'r Olwyn Yn Troi. Recordiwyd yr albwm dros gyfnod o dri mis yn Stiwdio Rockfield gyda James Hogg. Hon, heb os nac oni bai, yw albwm gorau Heather. Mae'r albwm ar gael yn ei chyfanrwydd ar Goreuon Heather Jones.

Ym 1974 chwaraeodd rhan Nia yn yr opera roc Nia Ben Aur a llwyfannwyd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin. Yn yr un flwyddyn recordiodd Young Folk In Worship ar label y BBC, sef albwm o ganeuon Cristnogol.

Yn sgil llwyddiant Mae'r Olwyn Yn Troi, ffurfiwyd y grŵp Neli gyda Catrin Edwards, Helen Bennett a Bethan Miles ond ni recordiwyd unrhyw ganeuon.

Ym 1976 rhyddhawyd Jiawl - casgliad o ganeuon cryf. Mae'n cynnwys teyrnged Heather i Janis Joplin, sef 'Cân i Janis'. Wedyn ymunodd Heather â grŵp jazz arbrofol Red Brass. Cantores arall y grŵp yr un pryd oedd neb llai nag Annie Lennox!

1980au ac 1990au[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1982 ffurfiwyd y grŵp canu gwerin Hin Deg gyda Mike Lease (gynt o'r Hwntws) a Jane Ridout, ond roedd rhaid aros tan 1991 cyn i'r grŵp rhyddhau Lisa Lân, ei albwm cyntaf.

Roedd Petalau Yn Y Gwynt (Sain, 1990) yn albwm aeddfed iawn, tipyn mwy canol y ffordd, ond roedd 'na uchafbwyntiau. Mae 'Hiraeth Bregus' yn fersiwn gwych o gân Meic Stevens, ac mae'r gân serch 'Rwy'n Cofio Pryd' yn hyfryd.

Ym 1991, newidiodd cwrs yn gerddorol, ac ymunodd gyda'r grŵp rêf Tŷ Gwydr er mwyn recordio'r albwm Effeithiol. Mae'r casét yn cynnwys fersiwn dawns o "Colli Iaith".

2000 ymlaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Recordiwyd Hwyrnos yn 2000 yn Stiwdio Albany, Caerdydd gyda rhai o gerddorion gwerin gorau Cymru: Dave Burns, Danny Kilbride a Stephen Rees ymysg eraill.

Mae Enaid (2006) yn cynnwys 'Beth Sydd I Mi' a sgrifennwyd gan Geraint Jarman. Y gân hon enillodd gystadleuaeth y gân bop yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd Caerfyrddin i Heather ym 1967. Mae'r albwm hefyd yn cynnwys teyrnged dyner i'r diweddar Tich Gwilym, sef 'Anthem Tich'.

Cyhoeddwyd ei CD ddiweddaraf Dim Difaru gan Recordiau'r Graig,[5]. Cafodd ei chynhyrchu gan Tudur Morgan yn stiwdio Simon Gardner, Llandudno ac mae'n cynnwys recordiad newydd o 'Colli Iaith'.

Mae Heather hefyd wedi bod yn recordio caneuon gyda'r grŵp electro-pop Clinigol.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei gŵr cyntaf oedd Geraint Jarman a cawsant ferch, Lisa Grug Jarman. Priododd y drymiwr Dave Coates yn 1987 ac mae ganddynt fab, Sam, a merch, Megan Fflur. Bu farw ei thad yn 1987 a bu farw ei mam yn 98 oed yn 2016.

Roedd yn un o'r Joneses a dorodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[6][7][8]

Rhyddhawyd ei hunangofiant, Gwrando ar fy Nghan gan wasg y Dref Wen ym mis Tachwedd 2007 (ISBN 9781855967793), ysgrifenwyd ar y cyd gyda Caron Wyn Edwards.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mae'r Olwyn Yn Troi (Sain) (1974)
  • Jiawl (Sain) (1976)
  • Petalau Yn Y Gwynt (Sain) 1990
  • Hwyrnos (Sain) (2000)
  • Goreuon Heather Jones (Sain) (2004)
  • Enaid (Sain) (Hydref 2006)
  • Dim Difaru (Recordiau'r Graig) (Tachwedd 2009)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]