Hob y Deri Dando (rhaglen)
Dechrau/Sefydlu | 1964 |
---|---|
Genre | cerddoriaeth boblogaidd |
Cynhyrchydd/wyr | Ruth Price |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Rhaglen deledu canu pop Cymraeg oedd Hob a Deri Dando. Darlledwyd hi ar y BBC gyda'r rhaglen gyntaf yn 1964, sef yr un flwyddyn â darllediad cyntaf Top of the Pops. Roedd gan y rhaglen bwyslais ar gerddoriaeth canu gwlad ar y cyfan.[1] Erbyn 1968 roedd sianel TWW wedi herio rhaglen y BBC gydag Ysgubor Lawen. Rhoddodd Hob a Deri Dando lwyfan pwysig, hwb ac incwm i sefydlu canu pop Cymraeg, er yr ystyrir cyfres Disc a Dawn a ddechreuodd yn 1966 fel yr un a wnaeth y cyfraniad pwysicaf i foderneiddio’r byd pop Cymraeg ac yna'r hyn a elwid, maes o law, y Sîn Roc Gymraeg.[1]
Enw'r Rhaglen
[golygu | golygu cod]Enwyd y gyfres gerddoriaeth ar ôl y cân werin adnabyddus Hob y Deri Dando,[2] sydd, efallai'n awgrymu natur gerddorol, os nad geidwadol y gyfres ar adeg o newid diwylliannol anferth yng Nghymru a Phrydain.
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Cynhyrchydd y gyfres oedd Ruth Price a hyrwyddwyd i wneud y rhaglen gan Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru, Meredydd "Merêd" Evans. Bu i Merêd hefyd gyflwyno'r rhaglen. Aeth ymlaen wedyn i gynhyrchu rhaglen pop gyntaf Gymraeg, Disc a Dawn yn 1966.
Mae amserlen rhaglen Rhagfyr 1964 yn nodi'r artistiaid canlynol, gan ddangos rhychwant y diddanwyr: Ivor Emmanuel, Margaret Williams, Olwen Jones, Eiri Jones, Caryl Owens, Ryan Davies, David Reynolds, Jim Howells, Justin Smith, y deuawd Aled a Reg,[3] Derek Boote, a'r Proclaimers.[4] Cyflwynydd arall yn y gyfres oedd y diddanwr Glan Davies (gelwir hefyd yn Glanville Davies).[5]
Ymhlith y cantorion eraill a ymddangosodd ar y gyfres oedd:
- Y Diliau - triawd yn canu caneuon ysgafn poblogaidd Gymraeg a chyfieithiadau Saesneg o ardal Dinefwr[6]
- Heather Jones - a ymddangosodd ar y rhaglen am y tro cyntaf yn 1966
- Meic Stevens
- Hogia Llandegai
- Tami Wyn - y gantores o Fethesda aeth ymlaen i gyrraedd siartiau Prydain fel Tammy Jones [7]
- Y Derwyddon - ceir clip yn canu 'Jac o Dŷ Coch'[8]
Cafwyd cyfraniadau hefyd gan Ryan Davies[9] Hywel Gwynfryn a Glan Davies.[10]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- 'Jac o Dŷ Coch clip o Y Derwyddon ar y rhaglen
- Amserlen rhaglen Hob y Deri Dando o'r Radio Times, Rhagfyr 1964
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Jones, Craig Owen. "Rhaglenni Teledu Pop". Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ "Hob y Deri Dando (North Wales version)". Tŷ Cerdd. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ "WATCH: Gwynedd singer recalls the heady days of the 1960s". Daily Post. 3 Chwefror 2015.
- ↑ "Hob Y Deri Dando". PROGRAMME INDEX y BBC o'r Radio Times gwreiddiol. 25 Rhagfyr 1964.
- ↑ "Hob y Deri Dando". BBC Programme Index. 30 Mai 1968. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
- ↑ "Y Diliau". Porth Esboniadur Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 4 Ebrill 2024.
- ↑ "Tammy: Tom Jones, Benny Hill a brig y siartiau". BBC Cymru Fyw. 7 Tachwedd 2018.
- ↑ "Jac o Dŷ Coch". Hob y Deri Dando ar sianel Ffarout ar Youtube. 1968.
- ↑ "Ryan on stage for the Welsh-language music programme 'Hob Y Deri Dando' in 1966". Facebook BBC Radio Wales. 21 Ebrill 2017.
- ↑ "Atgofion Glan: y diddanwr prysur fu'n gweithio gyda Ryan a Ronnie a Ken Dodd". BroAber 360. 2022.