Ryan Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ryan Davies
Ffrindiau Ryan, album cover.jpg
Ganwyd 22 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
Glanaman Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Ebrill 1977 Edit this on Wikidata (40 oed)
Achos: asthma Edit this on Wikidata
Buffalo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth digrifwr, canwr, cyfansoddwr, athro, actor teledu Edit this on Wikidata

Digrifwr, canwr ac actor Cymreig oedd Ryan Davies (22 Ionawr 193722 Ebrill 1977), dyn a'i wreiddiau yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru cyn ei farwolaeth annhymig.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed ym mhentre Glanaman yn Sir Gaerfyrddin yn fab i William Thomas Davies a Nans Davies (gynt Llywelyn). Pan oedd yn 10 oed, symudodd ei deulu Llanfyllin, Powys. Roedd ei rieni wedi eu cyflogi i redeg hen wyrcws Llanfyllin, Y Dolydd wedi iddo gael ei addasu i fod yn gartref gofal, ei dad yn Feistr a'i fam yn Fetron.[1] Roedd ei dad wedi gweithio mewn sawl sefydliad a chartrefi plant gyda'r awdurdodau lleol. Roedd W.T. Davies yn bysgotwr, naturiaethwr a cherddor a bu'n organydd yng Nghapel Moriah gan gyfeilio ac arwain Côr Cymysg Llanfyllin. Roedd Ryan yn canu yng Nghôr Plant Llanfyllin a bu'n perfformio yn Eisteddfod Powys gan adrodd, canu yn unigol a chanu i gyfeiliant y delynores Nansi Richards. Dysgodd Ryan i chwarae'r delyn hefyd.

Aeth Ryan i Ysgol Uwchradd Llanfyllin lle parhaodd i ddangos eu ddoniau, gan chwarae y piano yn y gwasanaeth, canu tenor mewn perfformiad o The Seasons gan Haydn a pherfformio ar lwyfan. Roedd yn hoff o chwaraeon gan chwarae criced i Sir Drefaldwyn ac roedd yn gôl-geidwad i dîm Llanfyllin am gyfnod.[2]

Wedi gadael yr ysgol, gwnaeth dwy flynedd o wasanaeth milwrol gyda'r RAF cyn mynd i hyfforddi fel athro yn Ngholeg Normal Bangor. Aeth ymlaen i astudio yn yr Ysgol Ganolog Llefaru a Drama Llundain cyn gweithio am bum mlynedd fel athro ysgol cynradd yn Croydon. Yn Llundain daeth i adnabod y dramodydd Gwenlyn Parry. Gadawodd yr ysgol yn 1965 i fynd yn actor proffesiynol llawn-amser.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn perfformio gyda Margaret Williams yn 1967

Ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966 a daeth ei ddawn at sylw cynhyrchwyr radio a theledu. Gwnaeth ei enw ar y rhaglen gomedi sefyllfa Fo a Fe ar BBC Cymru yn rhan yr Hwntwr 'Twm Twm'. Parwyd Ryan gyda'r actor Ronnie Williams gan bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru, Meredydd Evans, yn y sioe adloniant Cymraeg Ryan a Ronnie a daeth y ddau yn enwog iawn yn perfformio mewn clybiau ar draws Cymru.

Roedd sioe Ryan a Ronnie mor boblogaidd fel y cafodd ei symud i BBC1 gyda fersiwn yn Saesneg, gan ddod a chynulleidfa llawer ehangach iddynt. Nhw oedd y digrifwyr cyntaf i wneud cyfres deledu yn Gymraeg a Saesneg a roedd y pâr yn cael eu ystyried fel y Morecambe and Wise Cymreig[4]. Darlledwyd tri chyfres rhwng 1971 ac 1973. Un o sgetsus cofiadwy y gyfres oedd "Our House", lle roedd Ryan yn gwisgo fyny fel 'Mam Gymreig' ystrydebol gyda Ronnie yn chwarae Will, y tad.

Gwahanodd y pâr yn 1975, a'r rheswm swyddogol oedd iechyd Ronnie. Parhaodd Ryan i ymddangos yn helaeth ar deledu gan wneud ymddangosiadau mewn pantomeim adeg y Nadolig yn Theatr y Grand, Abertawe..[5]

Ar yr un pryd, roedd gan Ryan yrfa fel canwr, pianydd a chyfansoddwr caneuon. Mae rhai o'i gyfansoddiadau enwocaf yn cynnwys: "Hen Geiliog y Gwynt", "Nadolig Pwy a Wyr"[6] a "Blodwen a Meri". Ystyrir ei albwm, Ryan at the Rank, yn glasur. Serennodd Ryan fel "2nd Voice" yn y ffilm Under Milk Wood (1972) gyda Richard Burton.

Perfformiwyd un o ganeuon Ryan ei hunan, "Pan Fo'r Nos yn Hir", yn ei angladd.[7] Mae wedi ei recordio gan sawl perfformiwr arall yn cynnwys Rhydian Roberts ar ei albwm 2011 Welsh Songs: Caneuon Cymraeg, a Chor Meibion Whitland ar ei albwm canmlwyddiant "A Hundred Years of Song".[8] Mae caneuon eraill a ysgrifennwyd gan Ryan a ganwyd gyda'i bartner Ronnie wedi ei canu gan artistiaid eraill yn cynnwys "Ti a dy ddoniau" (Jodie Marie)[9] ac "Yn y bore" (Emyr Wyn Gibson & Steve Pablo Jones).

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Ryan ei gariad ers yn blentyn, Irene a cawsant ddau o blant, Bethan ac Arwyn.

Yn 1977 roedd Ryan yn ymweld a ffrindiau yn Buffalo, Efrog Newydd pan gafodd ymosodiad o'r fofga a bu farw. Roedd yn un o berfformwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd, a bu ei farwolaeth sydyn yn ddeugain oed yn ysgytwad fawr yng Nghymru.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Caneuon a gyfansoddodd[golygu | golygu cod y dudalen]

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd detholiad o ganeuon Ryan Davies yn 1983.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dathlu bywyd Ryan Davies yn y canolbarth , BBC Cymru Fyw, 22 Ebrill 2017. Cyrchwyd ar 7 Mai 2019.
  2. http://www.the-workhouse.org.uk/wp-content/uploads/2012/05/Dolydd-Newsletter-Autumn-2012-.pdf
  3. (Saesneg) Ryan Davies, Welsh entertainer. BBC (24 Chwefror 2012). Adalwyd ar 7 Mai 2019.
  4. New book highlights life of Ryan and Ronnie - 'The Welsh Morecambe and Wise' (en) , Wales Online, 2 Tachwedd 2014. Cyrchwyd ar 28 Chwefror 2016.
  5. Swansea's Grand Theatre: official website. Accessed 11 Mawrth 2013
  6. Nathan Bevan (28 March 2013). "Ryan Davies' family reunion". WalesOnline. Cyrchwyd 30 December 2018.
  7. Oxford Welsh Male Voice Choir - Recordings. Accessed 28 Chwefror 2016
  8. "WHITLAND MALE VOICE CHOIR - CAN MLYNEDD O GAN / A HUNDRED YEARS OF SONG". Sain. Cyrchwyd 4 March 2017.
  9. "Jodie Marie". S4C (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mawrth 2017.