Arwyn Davies
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol ![]() |
Actor a chyfansoddwr Cymreig yw Arwyn Davies (ganwyd 8 Ebrill 1967) sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Mark Jones ers 1993 ar yr opera sebon Pobol y Cwm. Ei dad oedd yr actor, comediwr, cerddor, canwr a chyfansoddwr Ryan Davies.
Mae e hefyd wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu ers y 1990au. Mae ei waith yn cynnwys y ffilm Ryan a Ronnie, addasiad Radio Cymru o Dan y Wenallt yn 2014, a dramau teledu fel Byw Celwydd.[1]