Asthma

Oddi ar Wicipedia
Asthma
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathbronchospasm, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPeswch, llid, gwichian wrth anadlu edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mewnanadlydd
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Y bronci neu'r pibellau gwynt yn culhau yw asthma (neu'r fogfa)[1] ac felly'n achosi anawsterau anadlu. Gall asthma fod yn angheuol os na chaif ei drin. Gall asthma redeg yn y teulu a gall achosi alergeddau.

Mae asthma yn gyflwr cyffredin, tymor hir neu gronig. Mae’n effeithio rhyw bum miliwn o bobl ym Mhrydain. Yn ystod plentyndod mae asthma yn aml yn dechrau, ond gall ddigwydd am y tro cyntaf i rywun o unrhyw oed. Mae asthma yn effeithio ar y llwybrau anadlu – y tiwbiau sy’n cario aer i mewn ac allan o’ch ysgyfaint. Efo asthma, bydd y llwybrau anadlu yn sensitif iawn a byddant yn chwyddo ac yn tynhau wrth i'r person anadlu unrhyw beth sy’n effeithio ar yr ysgyfaint, fel mwg neu alergenau megis paill. Mae hyn yn gallu achosi i’r frest deimlo’n dynn a gwichian, a’i gwneud anadlu'n anoddach. Bydd ryw draean o blant sydd ag asthma yn cael problemau pan fyddant yn oedolion. Nid oes gwellhad, ond o gael y driniaeth iawn a’i defnyddio’n gywir, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld eu bod nhw’n gallu rheoli’u symptomau a byw bywyd normal. O gymharu, mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint(COPD) fel arfer yn effeithio ar bobl hŷn. Mae COPD hefyd yn gallu achosi gwichian, ond mae hyn oherwydd bod y llwybrau anadlu wedi culhau yn fwy parhaol, ar ôl bod yn anadlu rhywbeth llidus(irritant)am gyfnod hir - mwg sigarét yw’r un mwyaf cyffredin.

Pathofisioleg[golygu | golygu cod]

Efo asthma, bydd y llwybrau anadlu yn sensitif iawn a gallant chwyddo. Mae hyn yn achosi i’r cyhyrau o gwmpas y llwybrau anadlu dynhau, gan wneud iddynt gulhau. Gall mwcws hel, gan achosi i’r llwybrau anadlu fynd yn gulach byth. Gan fod y llwybrau anadlu'n gul, mae’n anoddach i gymryd aer i mewn ac allan o’r ysgyfaint.

Achosion[golygu | golygu cod]

Er nad ydym yn gwybod beth sy’n achosi asthma, rydym yn gwybod bod llawer o bethau sy’n gallu ei wneud yn waeth. Mae asthma yn aml yn rhedeg mewn teuluoedd ac mae mwy o risg i bobl sydd ag alergeddau – yn enwedig y rheiny sy’n iau nag 16 oed. Gall rhai pobl ddatblygu asthma drwy anadlu sylweddau arbennig dro ar ôl tro, yn enwedig pan fyddant wrth eu gwaith. Mae llawer o gemeg a mathau o lwch yn gallu achosi asthma.

Mae unrhyw beth sy’n effeithio ar eich llwybrau anadlu a’u chwyddo yn gallu gwneud eich asthma yn waeth. Gallai fod yn haint neu’n rhywbeth rydych chi’n ei anadlu i mewn. Gall yr aer ei hun wneud asthma yn waeth, er enghraifft os ydych chi’n anadlu’n gyflymach neu os yw’r aer yn oer neu’n llaith. Dyma sefyllfaoedd cyffredin sy’n gallu gwneud asthma yn waeth:

  • Annwyd cyffredin
  • Alergeddau
  • Mwg tybaco
  • Emosiynau cryf
  • Llygredd aer yn enwedig o draffig

Mae ryw 10 y cant o bobl sydd ag asthma yn gweld bod cymryd cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd gan cynnwys asbrin a ibuprofen yn gallu gwneud eu symptomau yn waeth yn sydyn ac yn ddifrifol.

Symptomau[golygu | golygu cod]

Diagram yn dangos y gwahaniaeth yn y llwybr anadlu cyn ac wedi chwiw o asthma.
  • Byr eich anadl
  • Y frest yn gwichian
  • Y frest yn teimlo’n dynn
  • Tagu

Mae eich corff yn cynhyrchu hormonau o’r enw steroidau sy’n helpu i reoli chwyddo, gan gynnwys chwyddo yn y llwybrau anadlu mewn asthma. Nid yw’r broses hon yn dueddol o ddigwydd wrth i chi gysgu, felly mae asthma yn aml yn waeth gyda’r n os a’r peth cyntaf yn y bore. Weithiau dim ond ychydig bach bydd y llwybrau anadlu yn culhau, a chymedrol iawn fydd y symptomau. Ond, gall llwybrau anadlu rhai pobl gulhau cymaint fel nad ydynt yn gallu cael digon o ocsigen i mewn i’w hysgyfaint a’u gwaed. Mae hyn yn sefyllfa beryglus iawn lle mae angen sylw meddygol ar frys.

Rheolaeth[golygu | golygu cod]

Mae’r math mwyaf cyffredin o driniaeth yn cael ei chymryd drwy anadlydd (inhaler),sydd hefyd yn cael ei alw’n bwmp neu’n bwffiwr. Yn y rhain, mae dos arbennig o feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd i mewn i’ch llwybrau anadlu wrth anadlu i mewn – mae ychydig o effeithiau neu ddim o gwbl. Mae llawer o wahanol fathau o anadlwyr ond y mathau mwyaf cyffredin yw anadlwyr atal, sy’n ceisio atal symptomau asthma rhag digwydd, ac anadlwyr lleddfu, sy’n lleddfu symptomau asthma pan fyddant yn digwydd. Mae gwahanol anadlwyr yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd.

Ymdeithiwr y derw[golygu | golygu cod]

Siani flewog ymdeithiwr y derw

Mae tua 63,000 o binnau bychain y lindys yn llawn o wenwyn a all achosi asma, trafferthion anadlu arall a hyd yn oed anaphylaxis.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Acvademi; adalwyd 23 Ebrill

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!