Clwyf y traed a’r genau

Oddi ar Wicipedia
Clwyf y traed a'r genau
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 B08.8
ICD-9 078.4
DiseasesDB 31707
MeSH [1]

Afiechyd gwartheg, moch, defaid a geifr yw Clwyf y traed a’r genau (neu Pla'r Traed a'r Genau), ond mae'n bosib fod ar bob anifail o'r urdd Artiodactyla. Dydy'r afiechyd hon ddim yn marwol, ond fel arfer ceir yr anifeiliaid gyda'r afiechyd arnynt eu lladd a'i cyrff eu llosgi.

Mae'n bosib fod pobl yn ledaenu'r asient o ferm i ferm mewn ei ddillad neu anifeiliaid fel ceffylau, er gallen nhw ddim dioddef o'r afiechid hon.

Trosglwyddiad i bobl[golygu | golygu cod]

Yn anaml iawn yw trosglwyddiad i bobl a fel arfer yn digwydd dim ond oes cyffyrddiad agos iawn gan anifeiliaid gyda'r afiechyd arnynt. Fel hynny mae'r afiechyd hon yn mwy o beryg i'r amaethyddiaeth nag i bobl eu hynain.

Profiadau unigol[golygu | golygu cod]

  • Cofio’r Clwy’ 1952: Roedd DO Jones, Padog, yn gofnodwr o fri. Dyma rai o’i sylwadau ar epidemig y clwy traed a’r genau ym mis Mai 1952:
Saethwyd a llosgwyd yn Bryn Ddraenen 19 o wartheg a lloeau a 178 o ddefaid ac wyn. Saethwyd a llosgwyd yn Bryn Tirion 22 o wartheg a lloeau a 370 o ddefaid ac wyn. Yr oedd nifer o ddefaid ac wyn dieithr yn perthyn i’r ffermydd cyfagos ymhlith y defaid ac ŵyn a ddifawyd.
Golygfa drist a digalon iawn oedd i’w weld yn Bryn Ddraenen ar ddydd Sul 4ydd o Fai. Tua deg o gloch y bore daeth lori Knowles, Betws y Coed ac 8 tunnell o lô i ganol [car] tŷ ac yna llwyth o goed tân a gwellt. Tua hanner dydd daeth wyth o weithwyr Williams Bros, Llanrwst i dorri twll yn ganol cae car tŷ yn ymyl ffynnon Tŷ’n Pwll. Yr oedd yn ddiwrnod poeth a chlos. Yr oedd pedwar o filfeddygon ar y fferm a phlismon yn gwarchod groesffordd Tŷ Mawr ac yr oedd hysbysiadau Foot and Mouth Disease No Admittance ar y groesffordd ac ar y cloddiau.
Tua chwech o gloch dechreuwyd dod ar gwartheg godro, 8 ohonynt at ben y twll ac yna ei saethu hefo humane killer ar ôl rhoi dose o chlorophone [sic.] iddynt. Yr oedd y gwartheg i’w gweld dipyn yn gloff, ond roeddent yn cerdded yn iawn. Yn dilyn daeth y gwartheg hesbion o Tŷ Pwll ar lloeau bach, y rhai ohonynt yn prancio ac yn holliach; yn dilyn cafwyd y defaid ar wyn i’r cae. Yr oedd yr ŵyn bach yn rhedeg ac yn prancio ac yn llawn afiaith. Daeth lori a llwyth o hyrdls at wneud corlan ddefaid i ymyl y twll a gwneud corlan yno. Helwyd y defaid ar ŵyn bach diniwed i mewn i’r gorlan ac yna ei saethu fesul un tu nol iw pennau, ac yna ei llecho yn waed i gyd i’r twll. Tua hanner awr wedi saith daeth yn storm o law bras a thrwm, nes yr oedd pawb yn wlyb iawn. Tua naw o’r gloch dechreuwyd cynnau y tân; daethpwyd a galwyni o T.V.O i ddechrau y tân ac fe fuodd y goelcerth yn llosgi bob dydd a nos, hyd ddydd Gwener canlynol. Yn y cyfamser yr oedd amryw o weithwyr wrthi yn disinfectio y beudai, y ffordd a chae car tŷ, tynnwyd drysau i ffwrdd a chliriwyd y tail o’r beudai a llosgwyd gwellt a hen wair o gwmpas y ffarm.
Yr oedd yr un goruchwylion ynghyd ar gwaith a gofal rhag i’r haint ymledu yn cymryd lle yn fferm Bryn Tirion, Ysbyty Ifan. Yr oedd milfeddygon yn mynd oddi amgylch y ffermydd cyfagos i edrych y gwartheg ar defaid o fewn y cylch o ddwy filltir. Yr oedd gwaharddiadau rhag symud anifeiliaid am dair wythnos o fewn cylch o bymtheg milltir. Yr oedd yn ddydd Sul Mehefin y 1af cyn y daeth ffermwyr cyfagos canlynol yn rhydd o’r gwaharddiad; Tŷ Mawr, Tŷ Nant, Tŷ Uchaf, Ochr Cefn Bach a Ochr Cefn canol. Yr oedd yn fis Fehefin ar y defaid ar ŵyn yn mynd i’r mynydd ac oherwydd hynny yn achosi colled i’r caeau gwair. Defnyddiwyd galwyni o disinfectant o bob math gan ffermwyr y cylch, yn cynnwys rhoi matiau o wellt a disinfectant arno ar y ffyrdd. Yr oedd yn adeg bryderus i ffermwyr y fro.... Y mae y llywodraeth yn talu tal llawn am yr anifeiliaid holl iach ac yn talu un rhan o dair am yr anifeiliaid â'r clwyf arnynt. Ond mae y cwbwl yn dibynnu ar faint fydd y prisiwr wedi ei prisio... Beth a ddwedai Robert Jones taid Tŷ’n Pwll tybed pe gwelai ddiadell defaid yr oedd mor ofalus ohoni yn mynd yn aberth i'r fflammau ar gae car tŷ Tŷ’n Pwll. Heddiw 13 o Orffennaf 1952 nid oes fawr o oelion i'w weld ar dwll yr aberth. Y mae y gwair wedi tyfu drosto ond erys y cof am y braw, y pryder ac am aberthu yr anifeiliaid diniwed.[1]

Ewch i’r Tywyddiadur [2] i weld cofnodion y clwy’ ym mis Mawrth 2001. Gwyntoedd gafodd y bai yn yr achos hwn gan rai papurau newydd ar y pryd, yn chwythu o’r de gan ddod â’r clwy’ yma gyda llwch o’r Sahara. Darllenwch hefyd am yr haint yn 1968 a 1987.

Gohirio Eisteddfod yr Urdd 2001[golygu | golygu cod]

Yn sgil y Clwy bu'n rhaid canslo neu ohirio digwyddiadau ar draws Cymru. Yn eu plith oedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2002 oedd i fod i'w chynnal yn y Brifddinas yn 2001. Oherwydd traffethion y Clwy' bu i'r Urdd gynnal Gŵyl yr Urdd, 2001 yn ei lle.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

  1. D.O. Jones, Ty Isa, Padog, Ysbyty Ifan (diolch i deulu Ty Isa)