Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2002
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2002 |
Lleoliad | Parc Bute |
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2002 rhwng 3 - 8 Mehefin 2002 a chynhaliwyd hi yng ngerddi Soffia tu ôl Castell Caerdydd. Roedd yr Eisteddfod i'w chynnal yn 2001 ond fe'i gohiriwyd oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau a olygwyd y bu'n rhaid i'r Urdd gynnal Gŵyl yr Urdd, 2001 yn ei lle.[1]
Roedd y niferoedd yn arbennig o lwyddiannus gyda mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn ymweld â'r Ŵyl gyda 29,351 yn dod i'r maes ar y dydd Mawrth - y nifer fwyaf erioed i ymweld a Phrifwyl yr Urdd a'r mudiad. Roedd hyn, efallai'n rannol gan bod dathliadau Jiwbili y Frenhines Elisabeth II y golygu bod deuddydd o wyliau banc.[2]
Mwy o Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mewn datganiad i'r wasg o'r Maes, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Jim O'Rourke fod yr Urdd am fuddsoddi rhagor mewn chwaraeon. Daeth hyn yn sgîl arolwg gynhwysfawr o'r aelodau a ddangosodd dyheuad am fwy o weithgareddau chwaraeon gan y mudiad.[3]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Angharad Elen Blythe o Landwrog, Arfon, cerdd am fywyd merched y stryd mewn rhan amheus o ddinas Vancouver yng Nghanada. Roedd yn astudio yng Nghaerdydd.[4]
- Y Gadair - Ifan Prys yn ennill am yr ail dro wedi cipio'r Gadair yn Eisteddfod Bro Conwy yn 2000. Roedd yn ail ac yn drydydd am y gadair yng Ngŵyl yr Urdd a drefnwyd yn lle'r eisteddfod arferol. Roedd yn gyn-fyfyriwr yn Aberystwyth ac ar fin myn i weithio yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.[5]
- Y Fedal Ddrama - Lowri Huws. Wedi cwyn gan un o'r beirniaid, Jeremy Turner nad oedd modd i'r bobl weld a mwynhau y dramâu buddugol yn yr Urdd, cynigiodd BBC Radio Cymru ei ddarlledu.[6]
- Y Fedal Lenyddiaeth - Meinir Eluned Jones, gyda'i chyfrol Sylfeini Llithrig.[7]
- Tlws Cyfansoddwr -
- Y Fedal Gelf - Enillydd y Fedal Gelf a Dylunio Technoleg eleni yw Alex Kennedy o Ysgol y Creuddyn, ei obaith yw dilyn cwrs gradd mewn dylunio cynnyrch yn Lerpwl. Yn un o chwech o blant cynlluniodd storfa cylchgronau yn y cartref, gosod cwpanau a lle i blant chwarae a thynnu llun am hynny am gost o lai na £60.[8]
- Medal y Dysgwr - Louise Brown o Ysgol Uwchradd Caerdydd enillodd gyda llythyr at Hedd Wyn oddi wrth ei chwaer a sgwrs rhwng Siwan a Llywelyn Fawr. Roedd yn edrych ymlaen at fynd i astudio'r gyfraith yn Rhydychen.[9]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwell hwyr na hwyrach". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Mwy nag erioed ar Faes yr Urdd". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Mr Urdd - gawn ni fwy o chwaraeon' - meddai'r ifanc". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Coron ar ei phen - diolch i ferched y strydoedd". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Angerdd storm yn deilwng o gadair". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Radio Cymru yn achub drama rhag y llwch". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Lluniau dydd Llun". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Mewn hwyliau gwych - pabell gelf newydd". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Llythyr at Hedd Wyn yn ennill medal i ddysgwraig". BBC Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.