Canolfan Mileniwm Cymru
Math | canolfan gynadledda, canolfan y celfyddydau, adeilad digwyddiadau, sefydliad elusennol |
---|---|
Agoriad swyddogol | 28 Tachwedd 2004 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bae Caerdydd |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.465°N 3.1635°W |
Perchnogaeth | Aviva Investors |
| |||||
Lleoliad | Bae Caerdydd, Caerdydd, Cymru | ||||
---|---|---|---|---|---|
Torri Tir | Chwefror 2002 | ||||
Agorwyd | Cyfnod 1-28fed o Dachwedd 2004 Cyfnod 2-31fed o Ionawr 2009 | ||||
Cost | GB£106.2 | ||||
Pensaer | Partneriaeth Percy Thomas, sydd bellach o'r enw Capita Architecture | ||||
Nifer o seddau | Theatr Donald Gordon: 1,897 BBC Hoddinott Hall: 350 Weston Studio Theatre: 250 |
Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw Canolfan Mileniwm Cymru a leolir yng Nghaerdydd.
Cynlluniodd rhan cyntaf y ganolfan gan Jonathan Adams, a'r ail rhan gan Tim Green a Keith Vince[1]. Dechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 2002. Agorwyd rhan cyntaf yr adaeilad yn swyddogol yn Nhachwedd 2004 ac ail ddarn y prosiect - yn cynnwys Neuadd Hoddinott (gyda 350 o seddi) - ar 22 Ionawr 2009. Cynlluniwyd Neuadd Hoddinott yn fewnol fel capel.
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, yr Academi Gymreig Opera Cenedlaethol Cymru, Tŷ Cerdd, Diversions - Cwmni Dawns Cymru, Touch Trust a Hijinx. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis. Maint y ganolfan yw 37,000 medr sgwâr. Adeiladwyd gwaliau'r ganolfan gyda llechfaen o lywiau gwahanol o chwareli ar draws Cymru; porffor o Benrhyn, glas o Chwarl Cwt-y-Bugail, gwyrdd o Chwarel Nantlle, llwyd o Chwarel Llechwedd a du o Chwarel Corris. Defnyddiwyd 3,600 o dunnellau o lechu. Defnyddiwyd breuan ddu rhwng y llechu i roi argraff bod y waliau heb freuan. Defnyddiwyd dur ar do'r adeilad i gynrychioli diwydiant arall Cymru.[1].
Cyfansoddwyd y geiriau ar yr adeilad gan Gwyneth Lewis.[2]
Ymwelodd dros 14.75 milwn o bobl â'r ganolfan yn ystod ei degawd cyntaf.[3]
Llysenw'r adeilad yw'r "Armellog".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwGwefan designbuild-network.com
- ↑ Gwefan Gwyneth Lewis
- ↑ "Gwefan wow247". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-01. Cyrchwyd 2016-09-16.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Canolfan Mileniwm Cymru Archifwyd 2004-12-05 yn y Peiriant Wayback
- Doctor Who