Armellog

Oddi ar Wicipedia
Armellog
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonteulu Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonCingulata Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 58700. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Armellogion
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Uwchurdd: Xenarthra
Urdd: Cingulata
Teulu: Dasypodidae
Gray, 1821

Mamal â phlatiau esgyrnog yn amddiffyn ei ben a'i gorff yw armellog neu armadilo (hefyd dulog yn y Wladfa). Mae armellogion modern yn perthyn i'r teulu Dasypodidae sy'n cynnwys tua 21 o rywogaethau. Fe'u ceir yng Nghanolbarth a De America ac mae un rywogaeth yn cyrraedd de'r Unol Daleithiau. Maent yn hollysyddion sy'n bwydo ar infertebratau, anifeiliaid marw a phlanhigion.

Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Mae armellogion yn famaliaid brychol (placental mammals]] yn y Byd Newydd yn yr urdd Cingulata. Mae'r enw amgen Armadilo yn golygu "rhai arfog bach" yn Sbaeneg. Y Chlamyphoridae a'r Dasypodidae yw'r unig deuluoedd sydd wedi goroesi yn yr urdd, sy'n rhan o'r Uwch-urdd Xenarthra, sy'n cynnwys hefyd y morgrugyswyr (anteaters) a'r diogynnod ( sloths). Disgrifiwyd naw genws diflanedig a 21 rhywogaeth o armadilo sydd wedi goroesi, a nodweddir rhai ohonynt gan nifer y bandiau ar eu harfwisg. Mae pob rhywogaeth yn frodorol i'r Americas, lle maent yn trigo mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwahanol.

Nodweddir armellogion gan gragen arfwisg lledraidd a chrafangau hir, miniog ar gyfer cloddio. Mae ganddynt goesau byr, ond gallant symud yn eithaf cyflym. Mae hyd cyfartalog armellog tua 75 cm (30 modfedd), gan gynnwys ei gynffon. Mae'r armellog mawr yn tyfu hyd at 150 cm (59 modfedd) ac yn pwyso hyd at 54 kg (119 pwys), tra bod gan y lleiaf yn y genws hyd o 13-15 cm yn unig (5-6 modfedd). Pan fyddant dan fygythiad gan ysglyfaethwr, mae rhywogaethau Tolypeutes yn aml yn rholio i fyny i bêl; dyma'r unig rywogaeth o armadillo sy'n gallu gwneud hyn.

Dosraniad tacsonomegol[golygu | golygu cod]

Armellog bach gwridog

Teulu Dasypodidae

Teulu Chlamyphoridae

† arwydd tacson diflanedig

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Mae'r gair armadilo yn golygu "un arfog bach" yn Sbaeneg. Roedd yr Asteciaid yn eu galw'n āyōtōchtli [aːjoːˈtoːt͡ʃt͡ɬi], Nahuatl am "crwban-gwningen": āyōtl [ˈaːjoːt͡ɬ] (crwban) a tōchtli [ˈtoːt͡ʃt͡ɬi] (crwban). Y gair Portiwgaleg am "armadilo" yw tatu sy'n deillio o'r iaith Tupi. Ceir enwau tebyg hefyd mewn ieithoedd eraill, yn enwedig ieithoedd Ewropeaidd.

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Mae ymchwil genetig diweddar yn awgrymu y dylid cynnwys grŵp diflanedig o famaliaid arfog anferth, y glyptodontau, o fewn llinach yr armellogion, ar ôl dargyfeirio tua 35 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn fwy diweddar nag a dybiwyd yn flaenorol[2]

Dosbarthiad daearyddol[golygu | golygu cod]

Fel pob un o linachau Xenarhra, tarddodd armellogion yn Ne America. Oherwydd unigedd y cyfandir gynt, fe'u cyfyngwyd yno am y rhan fwyaf o'r Cenozoig. Caniataodd ffurfio Isthmws Panama yn ddiweddar i ychydig o aelodau'r teulu fudo tua'r gogledd i dde Gogledd America erbyn y Pleistosen cynnar, fel rhan o [[Cyfnewidfa Fawr America|Gyfnewidfa Fawr America].. (Gwnaeth rhai o’u perthnasau llawer mwy eu maint, yr un daith.)

Heddiw, mae'r holl rywogaethau'r armellogion sy'n bodoli yn dal i fod yn bresennol yn Ne America. Maent yn arbennig o amrywiol ym Mharagwâi (lle mae 11 rhywogaeth yn bodoli) a'r ardaloedd cyfagos. Mae llawer o rywogaethau mewn perygl. Mae rhai, gan gynnwys pedair rhywogaeth o Dasypus, wedi'u dosbarthu'n eang dros yr Americas, tra bod eraill, fel mulita Yepes, wedi'u cyfyngu i diriogaeth bach. Mae dwy rywogaeth, yr armellog cynffon noeth gogleddol ac armellog nawrhesog, i'w cael yng Nghanolbarth America; mae'r olaf hefyd wedi cyrraedd yr Unol Daleithiau, yn bennaf yn y taleithiau de-canolig (Tecsas yn arbennig), ond gydag ystod sy'n ymestyn mor bell i'r dwyrain â Gogledd Carolina a Fflorida, ac mor bell i'r gogledd â de Nebraska a de Indiana. Mae eu dosbarthiad wedi ehangu'n gyson yng Ngogledd America dros y ganrif ddiwethaf oherwydd diffyg ysglyfaethwyr naturiol. Mae Armadillos yn cael eu cofnodi fwyfwy yn ne Illinois ac yn tueddu tua'r gogledd oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Deiet ac ysglyfaethu[golygu | golygu cod]

Mae diet gwahanol rywogaethau o armellogion yn amrywio, ond maent yn cynnwys yn bennaf pryfed, lindys ac infertebratau eraill. Mae rhai rhywogaethau, fodd bynnag, yn bwydo bron yn gyfan gwbl ar forgrug a termitiaid.

Maen nhw'n gloddwyr toreithiog. Mae llawer o rywogaethau'n defnyddio eu crafangau miniog i gloddio am fwyd, fel cynrhon, ac i gloddio eu gwalau. Mae'n well gan yr armellog nawres adeiladu tyllau mewn pridd llaith ger y nentydd a'r arroyos y mae'n byw ac yn bwydo o'u cwmpas.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Billetetal
  2. "Study finds relationship between glyptodonts, armadillos". AMNH. Retrieved 22 February 2016