Florida
![]() | |
![]() | |
Arwyddair |
In God We Trust ![]() |
---|---|
Math |
Taleithiau'r Unol Daleithiau ![]() |
Enwyd ar ôl |
Pasg ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Tallahassee ![]() |
Poblogaeth |
20,271,272 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Ron DeSantis ![]() |
Cylchfa amser |
UTC−06:00, Eastern Time Zone, Cylchfa Amser Canolog, America/New_York ![]() |
Gefeilldref/i |
Wakayama ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
contiguous United States, South Atlantic states ![]() |
Sir |
Unol Daleithiau America ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
170,304 km² ![]() |
Uwch y môr |
30 metr ![]() |
Gerllaw |
Gwlff Mecsico, Cefnfor yr Iwerydd, Florida Strait ![]() |
Yn ffinio gyda |
Georgia, Alabama ![]() |
Cyfesurynnau |
28.1°N 81.6°W ![]() |
US-FL ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Government of Florida ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Florida Legislature ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Governor of Florida ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Ron DeSantis ![]() |
Un o daleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America yw Talaith Florida neu Florida, neu yn Gymraeg Fflorida,[1] gorynys fawr rhwng y Cefnfor Iwerydd a'r Gwlff Mecsico. Fe enwodd Juan Ponce de León y dalaith yn 1513. Ym 1763 bu Prydain yn ffeirio Cuba am Florida wedi i'r Prydeinwyr meddianu dinas La Habana/Hafana. Symudwyd y boblogaeth Sbaeneg i Guba wedyn. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 18,801,310.[2]
Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwâr (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.
Roedd Florida’r 27ain o’r taleithiau i ymuno â’r Unol Daleithiau ym 1845. Prifddinas y dalaith yw Tallahassee.
O’r 19g ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20g roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. Agorwyd Disney World ym 1971. Mae ganddo maint o 30,500 o aceri, ac yn denu tua 46 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol.[3]
Mae Canolfan Ofod Kennedy wedi bod yn allweddol i gyflawniadau’r Unol Daleithiau yn y maes Gofod ac hefyd yn denu twristiaid.
Mae gan Florida gorsydd mawr. Yr un mwyaf yw Cors Everglades. Rhennir un arall, Cors Okefenokee, efo Georgia.
Dinasoedd Florida[golygu | golygu cod y dudalen]
1 | Jacksonville | 813,518 |
2 | Miami | 399,457 |
3 | Tampa | 345,556 |
4 | St. Petersburg | 248,098 |
5 | Orlando | 235,860 |
6 | Tallahassee | 172,574 |
7 | Fort Lauderdale | 184,892 |
8 | Melbourne | 76,068 |
9 | Pensacola | 76,068 |
10 | Key West | 25,478 |
11 | Lake Wales | 12,071 |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Florida].
- ↑ "Compendium of the Ninth Census:Population, with race" (PDF). US Census Bureau. p. 14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Tachwedd 20, 2010. Cyrchwyd Rhagfyr 3, 2007.
- ↑ Gwefan history.com
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y dalaith