Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Canolfan y Mileniwm 2005
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2005 |
Lleoliad | Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd |
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Canolfan y Mileniwm 2005 rhwng 30 Mai - 3 Mehefin 2005. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd o gylch Canolfan Mileniwm Cymru fel "arbrawf" ac yn sgil ei llwyddiant penderfynwyd ei chynnal eto mewn egwyddor yn yr un lle ar gyfer Eisteddfod Bae Caerdydd, 2009.[1]
Ildio Coron
[golygu | golygu cod]Efallai mai pwynt trafod fwyaf yr Eisteddfod oedd y bu rhaid i enillydd y Goron, Llinos Dafydd o Landysul, ddychwelyd y Goron, a dderbyniodd yn ystod wythnos yr Eisteddfod wedi cwyn swyddogol am ei gwaith. Y gwyn oedd bod dyfyniad o waith awdur arall wedi'i ddefnyddio a heb gydnabod mai dyfyniad ydoedd a heb gydnabod yr awdur. Gan fod cystadleuaeth y Goron o safon uchel iawn a nifer o'r gweithiau yn deilwng o'r wobr, cynnigiwyd y Goron i Gwenno Mair Davies o Aelwyd Llansannan, Cylch Bro Aled, Sir Conwy, ddaeth yn ail.[2] Yn anhygoel, bu i Gwenno Mair Davies ennill y Goron yn Eisteddfod y flwyddyn ganlynol, a gynhaliwyd yn Rhuthun - Eisteddfod Sir Ddinbych, 2006.
Les Misérables
[golygu | golygu cod]Perfformiwyd cyfieithiad Tudur Dylan Jones o'r sioe gerdd Les Misérables yng Nghanolfan y Mileniwm ar 31 Mai, fel rhan o'r Eisteddfod.[3]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]- Y Goron - Gwenno Mair Davies, Llansannan wedi ildio gan Llinos Dafydd.
- Y Gadair - Aneirin Karadog, Pontypridd, disgrifiwyd fel "Rapiwr pumieithog", roedd yn ymchwilydd gyda chwmni teledu, Tinopolis ar y pryd.[4]
- Y Fedal Ddrama - Bethan Williams, gynt o Ysgol Uwchradd Brynrefail, Coleg Webber Douglas yn Llundain cyn gweithio i gwmnïau drama a theledu Sianco, Ffilmiau'r Nant, Y Frân Wen a Tonfedd Eryri.[5]
- Y Fedal Lenyddiaeth - Catrin Dafydd, Caerdydd am grddi yn canu clodydd y ddinas honno.[6]
- Tlws Cyfansoddwr - Owain Llwyd, o Lyndyfrdwy, ger Corwen, Sir Ddinbych, myfyriwr Cerdd ym Mangor a enillodd am y trydydd tro. Bu iddo ennill yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r Fro yn 2002 ac yna Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn, 2004.[7]
- Y Fedal Gelf - Helen Morgan (?)[8] Aelod Unigol C. Dwyrain Caerdydd, Rhanbarth Caerdydd a'r Fro.[9]
- Medal y Dysgwr - Harriet Petty, 17 oed ac yn byw yng Nghaerwys ger Treffynnon. Roedd ei chwaer 12 oed, Kate, wedi dysgu Cymraeg, a'i Mam a'i thad, oedd yn gweithio yng nghanolfan ganser Ysbyty Glan Clwyd. [10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dychwelyd i'r Bae". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Llinos yn ildio Coron yr Urdd". BBC Cymru. 15 Mehefin 2005. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Adolygiad Les Misérables". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Cadeirio Aneurin (sic.)". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Medal Ddrama i Bethan". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Medal lenyddiaeth". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Canu clodydd trydydd tlws". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Lluniau Dydd Llun". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Canlyniadau". Yr Urdd. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Medal y Dysgwyr, Dysgu Cymraeg mewn pedair blynedd". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tudalen BBC Cymru
- Dawns Seremoni y Goron Eisteddfod 2005