Aneirin Karadog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aneirin Karadog
Ganwyd 11 Mai 1982 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Man preswyl Kerlouan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Awdl, Crap ar Farddoni Edit this on Wikidata

Bardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd yw Aneirin Karadog (ganed 11 Mai 1982) yn Ysbyty H.M Stanley, Llanelwy[1].

Fe'i magwyd yn Llanrwst cyn symud i Bontardawe yn y 1980au ac yna i Bontypridd a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pontardawe a Pont-Siôn-Norton ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Mae ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro; gall siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl.

Roedd yn arfer byw ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth Fawr gyda'i wraig Laura. Yn Haf 2018 symudodd y teulu i Lydaw gyda'r bwriad o drochi eu plant yn yr iaith Lydaweg. Maent yn byw yn Kerlouan, sef pentref genedigol mam Aneirin. Mae'n darlithio yn Université de Bretagne Occidentale.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n gweithio am gyfnod gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf cyn cael swydd yn Llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu Tinopolis yn 2005. Mae wedi cyflwyno Wedi 7 ac arferai rannu'i amser rhwng y rhaglen Heno a Sam Ar y Sgrin, ar S4C.

Enillodd Wobr Emyr Feddyg yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddi ar y cyd yn y gyfrol Crap ar Farddoni. Yn Eisteddfod Wrecsam 2011 enillodd ar gystadleuaeth Y Delyneg.[angen ffynhonnell] Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol: O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas). Cyfrannodd Huw Aaron ugain o luniau a chlawr i'r gyfrol.[3] Enillodd y gyfrol "O Annwn i Geltia" wobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn.

Yn Eisteddfod yr Urdd Boncath, 2013, cyhoeddwyd mai Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-2015.

Mae bellach yn gweithio fel bardd a darlledwr llawrydd, ac yn gwneud ymchwil doethuriaethol ym Mhrifysgol Abertawe.[4]

Cerddoriaeth a llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Genod Droog a'r Diwygiad[5] ac mae wedi cyfrannu i amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady. Ym Mis Mawrth 2012 cyd-greodd a pherfformiodd Aneirin Bx3, sioe farddoniaeth i blant, ar y cyd gydag Eurig Salisbury, Catrin Dafydd a Llyr Bermo.[6]

Yn hydref 2013 cyhoeddodd albym gysyniadol mewn cynghanedd am zombis yng Nghwm Gwendraeth o'r enw "Y Meirw Byw" gyda'r prosiect Y Datgyfodiad, sy'n cynnwys geiriau gan Abeirin, cerddoriaeth gan Chris Josey a gwaith celf gan Huw Aaron. Bu'n un o 6 a greodd ac a berfformiodd sioe am Dylan Thomas o'r enw Dylan Live/Dylan ar Daith a deithiodd ledled cymru yn ystod 2014 ac gyrhaeddodd uchafbwynt drwy berfformio yn Pen Festival, Efrog newydd ym mis Mai 2014.

Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres Byd y Beirdd i Radio Cymru. Yn 2013, cyflwynodd a sgriptiodd Aneirin rhaglen ddogfen am Zombis i S4C o'r enw Sombis! Byd y Meirw Byw. Yn 2014 cyflwynodd ac actiodd Aneirin estyniad o'i hunan gyda barf piws hir mewn cyfres o'r enw Y Barf ar S4C, gan ymdrechu i gyflwyno barddoniaeth i wylwyr ifanc S4C mewn ffordd hwyliog.[7]

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy yn 2016 o dan y ffugenw "Tad Diymadferth?" Roedd ei gerdd, ar y testun "Ffiniau", yn archwilio rhyfel a heddwch.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 9 Rhagfyr 2015
  2. Aneirin Karadog: Codi pac a symud i Lydaw , BBC Cymru Fyw, 8 Mai 2018. Cyrchwyd ar 9 Awst 2019.
  3. Gwefan Gwales; adalwyd 17 Chwefror 2015
  4. 4.0 4.1 'Aneirin Karadog yn ennill Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy'.http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36988660; adalwyd 8 Awst 2016.
  5.  Karadog, Aneirin. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2012.
  6. www.celfcymru.org.uk; Gwefan www.celfcymru.org.uk, Cyngor Celfyddydau Cymru;] adalwyd 17 Chwefror 2015
  7. Gwefan S4C; adalwyd 17 Chwefror 2015