Cwm Gwendraeth
Gwedd
![]() | |
Math | dyffryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.756°N 4.29°W ![]() |
![]() | |

Bro neu ardal wledig yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Cwm Gwendraeth. Er bod yr enw Cwm Gwendraeth yn cael ei ddefnyddio am yr ardal, ceir dau gwm Gwendraeth mewn gwirionedd, sef Cwm Gwendraeth Fawr a Chwm Gwendraeth Fach, a ffurfir gan afonydd Gwendraeth Fawr, sy'n tarddu yn Llyn Llech Owain, a Gwendraeth Fach, sy'n tarddu ym mryniau Dyffryn Tywi. Gorwedd y fro rhwng Rhydaman, Llanelli a Caerfyrddin.
Mae Cwm Gwendraeth yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac yn cael ei ystyried fel arfer yn rhan o'r Fro Gymraeg.
Yn ddiweddar, sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth, menter iaith i hyrwyddo'r defnydd ymarferol o'r iaith Gymraeg yn y fro.
Yn rhan uchaf Cwm Gwendraeth, rhwng Y Tymbl, Dre-fach a Cross Hands, ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.
Pentrefi a threfi
[golygu | golygu cod]- Penygroes
- Gorslas
- Cross Hands
- Cefneithin
- Llanddarog
- Llandyfaelog
- Llangyndeyrn
- Crwbin
- Bancffosfelen
- Mynyddcerrig
- Dre-fach
- Capel Seion
- Mynydd-y-garreg
- Pont-iets
- Pont-henri
- Pontyberem
- Porth-y-rhyd
- Trimsaran
- Y Tymbl
- Y Meinciau
- Cydweli
- Llannon
Enwogion
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- 'Cwm Gwendraeth a Llanelli', D. Huw Owen, Cyngor Bwrdeistref Llanelli, 1989, ISBN 0 906821 09 6
- 'Glofeydd Cwm Gwendraeth', Ken C. Treharne, Llyfrgell Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Llanelli, 1995
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- BBC Cymru "Hanes Cwm Gwendraeth"
- Menter Cwm Gwendraeth Archifwyd 2016-04-06 yn y Peiriant Wayback