Pontardawe

Oddi ar Wicipedia
Pontardawe
Golygfa ar Bontardawe gydag Afon Tawe.
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLogunec'h Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7203°N 3.8534°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000621 Edit this on Wikidata
Cod OSSN721040 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Pontardawe.[1][2] Llifa'r Afon Tawe trwy ganol y dref, a enwir ar ôl y bont dros yr afon honno. Mae'r Afon Clydach Uchaf hefyd yn llifo trwy'r dre cyn ymuno â'r Tawe, ac mae rhan o Gamlas Abertawe (sydd pellach yn segur) i'w ganfod yno. Mae'n gartref i tua 5,000 o drigolion[3], gan ymestyn i mewn i bentrefi cysylltiedig Trebannws, Ynysmeudwy, Alltwen a Rhyd-y-fro.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[5]

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuodd hanes Pontardawe fel croesffordd llwybrau porthmyn, un yn arwain o Abertawe i Aberhonddu a'r llall o Gastell-nedd i Landeilo.[3] Recordiwyd yr enw ar fap am y tro cyntaf ym 1729, fel "Pont-ar-Dawye", yn New and Accurate Map of South Wales Emmanuel Bowen. Erbyn 1796, roedd Camlas Abertawe wedi cysylltu Pontardawe â dociau Abertawe. Galluogodd hygyrchedd y gamlas ddatblygiad diwydiant yn yr ardal, a ddechreuodd â gwaith haearn Ynysderw ym 1835. Gerllaw'r gwaith haearn, daeth tunplat a gwaith dur yn sylfaen i ddatblygiad y dref. Datblygodd William Parsons, diwydiannwr o Gastell-nedd, y diwydiant cynnar, cyn i deulu'r Gilbertsons o 1861 ymlaen ddod yn brif berchnogion y dref. Yn ogystal â gwaith metel, roedd sawl pwll glo yn yr ardal a diwydiant crochenwaith yn Ynysmeudwy.

O 1861 ymlaen, cysylltodd Rheilffordd Abertawe Pontardawe â gweddill y cwm tan ei ddad-gomisiynu yn 1964. Yn 1862, gorffennwyd adeiladu Eglwys Saint Pedr, a ariannwyd gan Mr Parsons.[6] Yn ogystal â'i bensaernïaeth anghyffredin Ffrengig, mae'r Eglwys hyd at heddiw yn un o brif nodweddion y dref.

Ers 1978, cynhaliwyd Gŵyl Pontardawe am benwythnos ym mis Awst bob blwyddyn - gŵyl sy'n fwrlwm o berfformiadau cerddorol, traddodiadol a rhyngwladol.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontardawe (pob oed) (6,832)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontardawe) (2,083)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontardawe) (5661)
  
82.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontardawe) (1,151)
  
39.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Yr iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd gan 1,995 o drigolion y dref (neu 40.9% o'i phoblogaeth) y gallu i siarad, darllen neu ysgrifennu yn Gymraeg.[3] Dyma ganran sydd llawer uwch na chyfartaledd Cymru gyfan (23.5%) ac mae'r fwrdeistref yn gyffredinol yn cynnwys 20.3% o siaradwyr Cymraeg. Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn darparu addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dre. Canolfan Gymraeg y dre a’r Cwm yw Ty Gwrhyd. Mae cyrsiau (gan Acadami Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe) a gweithgareddau ar gael i ddysgwyr ac i Gymry Cymraeg. Mae siop Cymraeg ar agor dyddiau Llun, Mercher, Gwener a bore dydd Sadwrn. Mae swyddfeydd Menter Iaith Castell nedd Port Talbot yn y ganolfan.

Cysylltiadau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Mae Pontardawe wedi'i gefeillio â:

Enwogion[golygu | golygu cod]

  • Gwenallt, llenor a bardd, a annwyd ym Mhontardawe ond symudodd y teulu yn fuan i'r Alltwen a roddodd iddo ei enw barddol Gwenallt.
  • Mari Hopcin, cantores
  • Gareth Edwards (ganwyd 1947), cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Rhagfyr 2021
  3. 3.0 3.1 3.2 "Neath Port Talbot County Borough Council, Neighbourhood Profile for Pontardawe Ward" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-08-20. Cyrchwyd 2012-05-16.
  4. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. "Plwyf Llangiwg, Church of St Peter, Pontardawe". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-01. Cyrchwyd 2012-05-16.
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Pontardawe Historians, Around Pontardawe (Chalford Publishing Company, 1996), ISBN 0-7524-0691-4

Dolen allanol[golygu | golygu cod]