Godre'r-graig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn sir Castell-nedd Port Talbot yw Godre'r-graig. Fe'i lleolir yng Nghwm Tawe ar bwys y briffordd A4067 tua 3.5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bontardawe.

Ar ochr uchaf y pentref saif ardal Y Graig Arw a Phant-teg, sy'n cysylltu Godre'r-graig ag Ystalyfera.

Capel Pant-teg oedd yr addol-dý cyntaf ym mhentref a chymuned Ystalyfera; fe'i codwyd gan y gymuned eu hunain a hynny yn 1821. Prynnwyd y tir ar lês o 999 mlynedd am geiniog neu ddwy yn unig ac enwyd y capel gan y Parch. John Davies o Alltwen.[1]

Yn etholiad lleol 2012 daeth 43.81% i fwrw eu pleidlais a'r canlyniad oedd:

Ymgeisydd Plaid Pleidleisiau Statws
Rosalyn Davies Plaid Cymru 300 Plaid Cymru yn dal eu gafael
Jackie Myers Llafur 286


WalesNeathPortTalbot.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. www.ystalyfera-history.co.uk; gwefan Saeneg; adalwyd 6 Ionawr 2015