Dyffryn Cellwen

Oddi ar Wicipedia
Dyffryn Cellwen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7764°N 3.6639°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Onllwyn, bwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Dyffryn Cellwen. Saif yn rhan uchaf Cwm Dulais, ger cyffordd y priffyrdd A4109 ac A4221, i'r gogledd-orllewin o bentref Banwen.

Saif y pentref ger y ffordd Rufeinig rhwng Castell Nedd ac Aberhonddu, ac mae olion caer a gwersyll Rhufeinig gerllaw. Ar un adeg roedd mwyngloddio glo, haearn a chopr yn bwysig yn yr ardal.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato