Aberdulais

Oddi ar Wicipedia
Aberdulais
Darlun olew o felin a dynnwys yn 1847
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6809°N 3.7732°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS773995 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Pentref ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Aberdulais. Saif ym mhen isaf Cwm Dulais, lle mae Afon Dulais yn llifo i mewn i Afon Nedd, a ger cyffordd y priffyrdd A465 ac A4109, i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd.

Fel mae'r Dulais yn agosau at afon Nedd, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn. Mae'r rhaeadr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato