Pontrhydyfen
| Math | pentref |
|---|---|
| Poblogaeth | 830 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cwmafan, Pelenna |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.6318°N 3.7439°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y DU | Stephen Kinnock (Llafur) |
![]() | |
Pentref ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Pontrhydyfen (neu Pont-rhyd-y-fen). Saif yng Nghwm Afan ar lethrau'r bryniau lle mae Afon Pelenna yn rhedeg i mewn i Afon Afan. Mae yna bont amlwg yng nghanol y pentref (un o sawl pont) a adeiladwyd gan John Reynolds ym 1825. Hon yw "Y Bont Fawr", a oedd ar un adeg yn dwyn rheilffordd fach dros y cwm. Yn ddiweddarach roedd yn dwyn camlas i gario dŵr i'r gwaith haearn ger ardal Penycae (Oakwood nawr).
I'r de i lawr Cwm Afan mae pentref Cwmafan. I'r gogledd-ddwyrain lan y cwm mae Cynonville a pharc fforest Afan Argoed. I'r gorllewin mae tref Castell-nedd.
Pobl o Bontrhydyfen
[golygu | golygu cod]- Richard Burton, actor
- Ivor Emmanuel
- Rebecca Evans, cantores opera
- Geraint Griffiths, Canwr, cerddor ac actor.
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera
