Neidio i'r cynnwys

Onllwyn

Oddi ar Wicipedia
Onllwyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,194, 1,171, 1,214 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7785°N 3.6799°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001026 Edit this on Wikidata
Cod OSSN842102 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJeremy Miles (Llafur)
AS/au y DUCarolyn Harris (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Onllwyn.[1][2] Mae hefyd yn enw'r ward etholiadol, sy'n cynnwyd Dyffryn Cellwen a Banwen. Saif tua 12 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd, ychydig i'r gogledd o Flaendulais, ar y briffordd A4109 a ger tarddle Afon Dulais.

Ardal lofaol oedd hon, gyda phump glofa o gwmpas y pentref ar un adeg. Mae traddodiad lleol i Sant Padrig gael ei eni yn yr ardal, a chynhelir gorymdaith ar 17 Mawrth i ddathlu hyn. Ceir gweddillion dwy gaer Rufeinig a ffordd Rufeinig gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Map
Am OpenStreetMap
Mapiau: telerau defnyddio
700m
763llath
Ffordd Rufeinig
Ffordd Rufeinig
Gwersyll
Gorymdeithio
Rhufeinig
Caer
Rufeinig
Maen Padrig Sant
Maen
Padrig Sant
Rhaeadr Henrhyd
Rhaeadr Henrhyd
Rhaeadr Henrhyd
Rhaeadr Henrhyd
Dyffryn Cellwen
Dyfodol Arloesi Rheilffyrdd (GCRE)
GCRE
Ffwrneisi Chwyth yn Banwen
Ffwrnais
Chwyth
Onllwyn Trygloyn Slant Coalmine
Onllwyn Trygloyn Slant
Onllwyn No 3 Slant Coalmine
Onllwyn
No 3 Slant
Onllwyn No 1 Coal mine
Onllwyn No 1
Coal mine
Map o ardal Onllwyn. Dangosir tri o'r pyllau glo mwy o'r 20fed ganrif fel dotiau llwyd.[9] Dangosir lleoliadau eraill o bwys fel dotiau coch.
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Onllwyn (pob oed) (1,194)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Onllwyn) (222)
  
19.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Onllwyn) (994)
  
83.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Onllwyn) (242)
  
46.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
  9. "Glamorgan West - Onllwyn". welshcoalmines.co.uk. Cyrchwyd 18 Chwefror 2023.