Y Creunant
| Math | pentref, cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,910, 1,934, 1,883 |
| Gefeilldref/i | Alençon |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Castell-nedd Port Talbot |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,169.6 ha |
| Cyfesurynnau | 51.728°N 3.747°W |
| Cod SYG | W04000609 |
| Cod OS | SN793047 |
| Cod post | SA10 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y DU | Christina Rees (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Y Creunant (Saesneg: Crynant). Saif yng Nghwm Dulais tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd ac i'r de o bentref Blaendulais, ar y briffordd A4109.
Mae Afon Dulais yn llifo heibio iddo, gyda Mynydd Marchywel i'r gorllewin, Hirfynydd i'r dwyrain a Mynydd y Drum i'r gogledd.

Roedd Treforgan ar un adeg yn bentref ar wahân, ond erbyn hyn mae'n rhan o'r Creunant. Ardal lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gyntaf, Maes Mawr, yn 1874. Roedd glofa Cefn Coed yn nodedig fel y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd ar un adeg. Mae Amgueddfa Glofa Cefn Coed ar safle hen lofa Blaenant, oedd yn estyniad o lofa Cefn Coed.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Aberafan · Castell-nedd · Glyn-nedd · Llansawel · Pontardawe · Port Talbot
Pentrefi
Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cymer · Cwm-gors · Cwmllynfell · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Godre'r-graig · Gwauncaegurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontrhydyfen · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera
