Amgueddfa Glofa Cefn Coed

Oddi ar Wicipedia
Amgueddfa Glofa Cefn Coed
Enghraifft o'r canlynolmwynglawdd copr, amgueddfa lofaol, amgueddfa annibynnol Edit this on Wikidata
LleoliadY Creunant Edit this on Wikidata
Map
Rhiant sefydliadCyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
RhanbarthY Creunant Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.npt.gov.uk/default.aspx?page=4964, http://www.cwmdulais.org.uk/cefncoed/index.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amgueddfa Glofa Cefn Coed.
Hen injan yn yr Amgueddfa Lo.

Lleolir Amgueddfa Glofa Cefn Coed (Saesneg: Cefn Coed Colliery Museum) yn Y Creunant ger Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot.

Sefydlwyd glofa Cefn Coed yn y 1920au ond mae hanes mwyngloddio am lo yn ardal Cwm Dulais yn dechrau yn y 18g pan agorodd Syr Herbert Mackworth lofa Onllwyn. Glofa glo carreg oedd Glofa Cefn Coed, a hynny'n lo carreg o'r ansawdd uchaf. Daeth y glo cyntaf i'r wyneb yn 1930. Erbyn 1945 roedd 908 o ddynion yn gweithio yno. Cafodd ei genedlaetholi a dod yn eiddo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol newydd. Daeth cynhyrchu glo i ben yn 1958.

Heddiw mae'r safle yn amgueddfa boblogaidd. Ni cheir mynediad i'r gweithfeydd dan ddaear am eu bod yn rhy beryglus, ond cedwir y rhan fwyaf o'r hen adeiladau a rhai o'r peiriannau mawr ar y safle. Mae ar agor i'r cyhoedd rhwng Ebrill a Hydref; does dim tal mynediad.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]