Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
| Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Neath Port Talbot County Borough Council | |
|---|---|
| Gwybodaeth gyffredinol | |
| Sefydlwyd | 1 Ebrill 1996 |
| Math | Unsiambraeth |
| Arweinyddiaeth | |
| Maer Castell-nedd Port Talbot | Cyng Scott Jones, Annibynnol ers 17 Mai 2019 |
| Arweinydd y cyngor | Cyng Rob Jones, Llafur ers 12 Mai 2017 |
| Dirprwy Arweinydd | Cyng Ted Latham, Llafur |
| Arweinydd yr wrthbleidiau | Cyng Alun Llewelyn, Plaid Cymru |
| Prif weithredwr | Karen Jones ers Tachwedd 2020 |
| Cyfansoddiad | |
| Aelodau | 64[1] |
| Grwpiau gwleidyddol |
|
| Hyd tymor | 5 Mlwyddyn |
| Etholiadau | |
| System bleidleisio | Cyntaf i'r felin |
| Etholiad diwethaf | 4 Mai 2017 |
| Etholiad nesaf | 5 Mai 2022 |
| Man cyfarfod | |
| Canolfan Ddinesig, Port Talbot | |
| Gwefan | |
| npt.gov.uk | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r corff llywodraethu lleol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Ers ei greu ym 1996 mae wedi cael ei reoli gan y Blaid Lafur.
Arweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ar 12 Mai 2017, daeth y Cynghorydd Robert Jones yn arweinydd y cyngor, gan gymryd yr awenau gan yr arweinydd blaenorol y Cynghorydd Ali Thomas.[2] Y dirprwy arweinydd yw'r Cynghorydd Ted Latham.
Strwythur gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Cynhelir etholiadau bob pum mlynedd, gan ethol chwe deg pedwar o gynghorwyr. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 4 Mai 2017.[3]
Cyfansoddiad cyfredol
[golygu | golygu cod]| Grwpiau gwleidyddol | Aelodau |
|---|---|
| Llafur | 39 |
| Plaid Cymru | 15 |
| Annibynnol | 8 |
| Democratiaid Rhyddfrydol Cymru | 1 |
| WNP | 1 |
| cyfanswm | 64 |
Canlyniadau hanesyddol
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Llafur | Democratiaid Rhyddfrydol | Plaid Cymru | Cymdeithas preswylwyr | Eraill |
|---|---|---|---|---|---|
| 2017 | 43 | 1 | 15 | 0 | 5 |
| 2012 | 52 | 0 | 8 | 0 | 4 |
| 2008 | 37 | 4 | 11 | 3 | 9 |
| 2004 | 36 | 2 | 10 | 9 | 7 |
| 1999 | 40 | 2 | 10 | 5 | 7 |
| 1995 [4] | 52 | 2 | 3 | 0 | 8 |
Maeriaeth
[golygu | golygu cod]Ar 17 Mai 2019, penodwyd y Cynghorydd Scott Jones yn faer Castell-nedd Port Talbot.
Y dirprwy faer ar gyfer 2019-20 yw'r Cynghorydd John Warman.
Wardiau etholiadol
[golygu | golygu cod]
Mae'r fwrdeistref sirol wedi'i rhannu'n 42 ward etholiadol sy'n dychwelyd cyfanswm o 64 o gynghorwyr. Mae rhai o'r wardiau hyn yn cyd-fynd â chymunedau (plwyfi) o'r un enw. Gall pob cymuned gael cyngor etholedig. Mae 19 o gynghorau cymunedol yn ardal y fwrdeistref sirol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-19. Cyrchwyd 2021-02-05.
- ↑ Gemma Parry (12 May 2017). "The new leader of Neath Port Talbot Council wants to make it the best authority in Wales". Wales Online. Cyrchwyd 20 August 2018.
- ↑ "Trailer - Local Elections May 2017". www.gwydir.demon.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-01. Cyrchwyd 2021-02-05.
- ↑ http://www.electionscentre.co.uk/?page_id=2401
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
| |||||