Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Label brodorol | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 1996 |
Aelod o'r canlynol | Council of European Municipalities and Regions |
Enw brodorol | Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.wlga.gov.uk |
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / CLlLC (Saesneg: Welsh Local Government Association / WLGA) yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol Cymru, sef y cyrff sy'n rhedeg siroedd, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd Cymru, a hyrwyddo democratiaeth mewn llywodraeth leol yn y wlad. Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn aelodau o'r Gymdeithas ac mae awdurdodau tân ac achub Cymru, pedwar awdurdod yr heddlu ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt. Dydy Cymunedau Cymru ddim yn cael ei gynrychioli gan CLlLC ond yn hytrach gan Un Llais Cymru.[1]
Strwythur a gwaith
[golygu | golygu cod]Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1996 pan gyflwynwyd awdurdodau unedol newydd yng Nghymru. Cyn hynny roedd llywodraeth leol Cymru yn cael ei chynnwys yn ddiwahân gyda Lloegr (gweler Cymru a Lloegr). Ond mae CLlLC o hyd yn rhan o 'Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr' (Saesneg: Local Government Association neu'r LGA) fel aelod cyswllt am fod rhai materion llywodraeth leol yn dal i gael eu penderfynu yn San Steffan gan Llywodraeth y DU fel rhan o'r drefn sy'n cynnwys Cymru gyda Lloegr o fewn y DU. Does gan Loegr ddim gymdeithas lywodraeth leol iddi ei hun o fewn yr LGA[2]
Yn ôl CLlLC, ei phrif ddibenion yw "hyrwyddo safonau ac enw da maes llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau i'r cyhoedd a democratiaeth".[3]
Prif gorff gweinyddol y Gymdeithas yw Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd gyda 79 o aelodau, gan gynnwys o leiaf 2 o bob awdurdod sy’n aelod. Mae’r cyngor yn cynnal cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.[4]
Aelodau
[golygu | golygu cod]- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Porth Talbot
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Sir Gaerfyrddin
- Cyngor Sir Penfro
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Sir Ynys Môn
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-02. Cyrchwyd 2009-05-26.
- ↑ .LGA Archifwyd 2009-06-09 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "CLlLC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-29. Cyrchwyd 2009-05-26.
- ↑ "CLlC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-01. Cyrchwyd 2009-05-26.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan CLlLC
- Cyfansoddiad[dolen farw] (ffeil PDF)
- Llywodraeth leol yng Nghymru Archifwyd 2009-04-27 yn y Peiriant Wayback Arolwg hanesyddol byr