Ers 2008 does gan ddim un blaid fwyafrif gweithredol yn y cyngor. Mae gan y Ceidwadwyr y nifer fwyaf o seddi yn cael eu dilyn gan Blaid Cymru ac yna'r Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ceir canran uchel o gynghorwyr annibynnol hefyd. Rheolir y cyngor ar hyn o bryd gan gynghrair a arweinir gan Blaid Cymru.