Cwm Dulais
Math | dyffryn, peiran |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7363°N 3.7503°W |
Dyffryn yn ne-gorllewin Cymru, yn ymestyn o ogledd Sir Abertawe i ogledd-gorllewin Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yw Cwm Dulais, sy'n cael ei enw o Afon Dulais.
Mae'r cwm yn ymestyn tua'r de-orllewin a'r de o gyffiniau Onllwyn, i'r dwyrain o Ystradgynlais, i Aberdulais, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd. Y prif bentrefi eraill yw Blaendulais, Y Creunant a Cil-ffriw. Mae'r briffordd A4109 yn arwain ar hyd y cwm.
Fel mae Afon Dulais yn agosáu at Afon Nedd ger Aberdulais, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn. Mae'r rhaeadr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Arferai Cwm Dulais fod yn ardal lofaol bwysig iawn. Roedd glofa Cefn Coed ger y Creunant yn nodedig fel y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd ar un adeg. Mae Amgueddfa Glofa Cefn Coed yn hen adeiladau glofa Blaenant, oedd yn estyniad o lofa Cefn Coed.