Eurig Salisbury
Eurig Salisbury | |
---|---|
Eurig Salisbury yn 2010 | |
Ganwyd | 1983 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd a darlithydd prifysgol Cymreig yw Eurig Salisbury (ganed Caerdydd, 1983).
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]Magwyd Eurig Salisbury ym mhentref Llangynog, Sir Gaerfyrddin. Bu’n ddisgybl yn Ysgol y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Dysgodd ei hun i ysgrifennu cynghanedd pan oedd yn dair-ar-ddeg oed, gyda chymorth cyfrol Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd.[1] Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004, a gradd MPhil ar ganu cynnar Guto'r Glyn yn Adran y Gymraeg yn 2006.[2]
Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fe’i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle cyfrannodd at dri phrosiect arloesol ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, cyn ei benodiad, yn 2015, yn Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.[2]
Bardd
[golygu | golygu cod]Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2006. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Llyfr Glas Eurig yn 2008, a chyfrol o gerddi i blant, Sgrwtsh! yn 2011. Cafodd ei ddewis gan Gyfnewidfa Lên Cymru i fod yn rhan o Gadwyn Awduron Cymru–India yn 2010–12 a bu'n cydweithio gyda beirdd o is-gyfandir India a Chymru mewn gweithdai cyfieithu creadigoil.[1] Ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–13. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 gyda'i nofel Cai.
Mae’n aelod o dîm y Glêr ar raglen Talwrn y Beirdd, BBC Radio Cymru, ac o dîm Sir Gâr yn Ymryson y Beirdd. Ef yw Golygydd Cymraeg cylchgrawn Poetry Wales.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- (gydag eraill) Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
- Ar Drywydd Guto'r Glyn ap Siancyn y Glyn (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007)
- Llyfr Glas Eurig (Cyhoeddiadau Barddas, 2008)
- (gol., gyda Barry J. Lewis) Gwaith Gruffudd Gryg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2011)
- Sgrwtsh! (Gwasg Gomer, 2011)
- (gol.) Buarth Beirdd: Ymatebion Beirdd Cyfoes i Lawysgrifau Cynharaf yr Iaith Gymraeg (Cyhoeddiadau Barddas, 2014)
- Cai (Gwasg Gomer, 2016)
- (gyda Sampurna Chattarji) Lle Arall Ble Arall / Elsewhere Where Else (Paperwall Media, 2018)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Eurig Salisbury"; Cyfnewidfa Lên Cymru, adalwyd 9 Medi 2018
- ↑ 2.0 2.1 "Eurig Salisbury'n ennill y Fedal Ryddiaith eleni"[dolen farw]; Eisteddfod Cymru, adalwyd 9 Medi 2018