Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro 2013 rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2013 ar gaeau Cilwendeg Boncath yng ngogledd Sir Benfro. Emyr Phillips oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a cynhaliwyd Gŵyl Gyhoeddi yn Hwlffordd ym mis Ebrill 2012.[1] Un o Lywyddion y Dydd oedd y gantores a pherfformwraig yn sioeau'r West End, Connie Fisher a nododd ei dyled i'r Urdd ac Eisteddfod yr Urdd am roi cyfle iddi berfformio a meithrin ei Chymraeg.[2]