Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Plant yn yr eisteddfod
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, y Bala 1954
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin, 1967.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.[1] Fe'i trefnir gan Urdd Gobaith Cymru a hynny yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau gyda Gŵyl y Banc ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin, a hynny yn y Gogledd ac yn y De am yn ail. Mae'n ŵyl uniaith Gymraeg.

Cystadlaethau ym maes canu, llefaru, dawnsio a chanu offerynnau yw canolbwynt yr Eisteddfod, ond mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn cystadlu yn mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn hefyd. Rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu. Rhennir Cymru i nifer o ardaloedd. Goreuon eisteddfodau yr ardaloedd hynny sef eisteddfodau cylch sy'n mynd ymlaen i gystadlu yn yr eisteddfodau sir, ac enillwyr y rheini yn eu tro fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Yn ystod yr Ŵyl, cyflwynir nifer o ddefodau ar brif lwyfan yr Eisteddfod i anrhydeddu enillwyr gan gynnwys enillwyr Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Gelf a Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Hyd 2007, fe gyflwynwyd Y Fedal Lenyddiaeth yn ogystal, ond dilëwyd y gystadleuaeth y flwyddyn honno.

Rhestr Eisteddfodau diweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliadau Eisteddfodau'r Gorffennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol cyntaf yr Urdd ym Mhafiliwn Corwen yn 1929.

Cynhelir yr Eisteddfod yn y Gogledd a'r De bob yn ail, ond ym Mae Caerdydd bob pedair mlynedd ers agor Canolfan y Mileniwm.

1930au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
1930 Caernarfon
1931 Abertawe
1932 Machynlleth
1933 Caerffili
1934 Hen Golwyn
1935 Caerfyrddin
1936 Blaenau Ffestiniog
1937 Gwauncaegurwen
1938 Aberystwyth
1939 Llanelli

1940au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
1940 Y Rhyl
1941-45 Bwlch yn ystod Yr Ail Ryfel Byd
1946 Corwen
1947 Treorci
1948 Llangefni
1949 Pontarddulais

1950au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
1950 Wrecsam
1951 Abergwaun
1952 Machynlleth
1953 Maesteg
1954 Y Bala
1955 Abertridwr
1956 Caernarfon
1957 Rhydaman
1958 Yr Wyddgrug
1959 Llanbedr Pont Steffan

1960au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
1960 Dolgellau
1961 Aberdâr
1962 Rhuthun
1963 Brynaman
1964 Porthmadog
1965 Caerdydd
1966 Caergybi
1967 Caerfyrddin
1968 Llanrwst
1969 Aberystwyth

1970au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
1970 Llanidloes
1971 Abertawe
1972 Y Bala
1973 Pontypridd
1974 Y Rhyl
1975 Llanelli
1976 Porthaethwy
1977 Y Barri
1978 Llanelwedd
1979 Maesteg

1980au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
1980 Abergele
1981 Castellnewydd Emlyn
1982 Pwllheli
1983 Aberafan
1984 Yr Wyddgrug
1985 Caerdydd
1986 Dyffryn Ogwen
1987 Merthyr Tudful
1988 Maldwyn
1989 Cwm Gwendraeth

1990au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
1990 Dyffryn Nantlle
1991 Taf Elai (Tonyrefail)
1992 Rhuthun
1993 Gorseinon
1994 Meirionnydd (Dolgellau)
1995 Bro'r Preseli (Boncath)[2]
1996 Bro Maelor (Wrecsam)
1997 Islwyn
1998 Llŷn ac Eifionydd (Penyberth ger Pwllheli)
1999 Llanbedr Pont Steffan

2000[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
2000 Conwy
2001 Gohiriwyd o achos clefyd traed a'r genau.
2002 Caerdydd
2003 Parc Margam
2004 Llangefni
2005 Caerdydd
2006 Rhuthun
2007 Caerfyrddin
2008 Llandudno
2009 Caerdydd

2010au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
2010 Llannerch Aeron[3]
2011 Abertawe[4]
2012 Eryri (Glynllifon ger Caernarfon)[5]
2013 Sir Benfro (Boncath)[2]
2014 Meirionnydd (Y Bala)
2015 Caerffili
2016 Y Fflint
2017 Pen-y-Bont ar Ogwr
2018 Brycheiniog a Maesyfed (Llanelwedd)
2019 Caerdydd

2020au[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Lleoliad
2020 Gohiriwyd oherwydd pandemig COVID-19.

Cynhaliwyd fersiwn ar-lein (Eisteddfod T) yn 2020 a 2021.[6][7]

2021
2022 Dinbych
2023 Llanymddyfri
2024 Machynlleth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Llywodraeth Cymru[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 "Best of luck to everyone at the Urdd". Rags to Riches for schools. 27-05-2013. Cyrchwyd 31-05-2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  3. Llanerchaeron estate to host Urdd Eisteddfod BBC, 29 April 2010
  4. Eisteddfod 2011 Swansea at Urdd Gobaith Cymru
  5. Eisteddfod Eryri 2012 at Urdd Gobaith Cymru
  6. "Llwyddiant Eisteddfod T yn 'arloesol a hanesyddol'". BBC Cymru Fyw. 2020-05-30. Cyrchwyd 2021-02-11.
  7. "Yr Urdd yn cyhoeddi trefniadau Eisteddfod T 2021". BBC Cymru Fyw. 2021-02-11. Cyrchwyd 2021-02-11.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]